Llysgenhadon Ifanc
Un o ddyheadau Chwaraeon Cymru yw sicrhau bod pob plentyn yn gwirioni ar chwaraeon am oes.

Mae'r Tîm PIA yn gweithio gyda myfyrwyr cynradd, uwchradd a choleg i ennyn diddordeb pobl ifanc mewn rolau arweinyddiaeth i'w hannog i fod yn frwdfrydig am y rôl y gallant eich chwarae wrth helpu pobl eraill i gadw'n actif! Mae ein Harweinwyr Ifanc yn rhan o drefnu a chynnal y sesiynau gweithgarwch corfforol yn eu hysgolion a'u cymunedau, ac mae llawer yn cymryd rhan mewn rolau gwirfoddoli gyda'n tîm drwy ddigwyddiadau a gweithgareddau a gynhelir ledled y ddinas.
Am ragor o wybodaeth am y Chwaraeon Cymru Llysgenhadon Ifanc (Yn agor ffenestr newydd).
Rôl Llysgenhadon Ifanc yw:
- Cynyddu cyfranogiad a ffyrdd iach o fyw yn eu hysgol
- Defnyddio chwaraeon i hyrwyddo gwerthoedd cadarnhaol chwaraeon
- Bod yn fodel rôl a hyrwyddo AG a chwaraeon ysgol
- Bod yn llais pobl ifanc ar AG a chwaraeon ysgol yn eu hysgolion a'u cymunedau
Am ragor o wybodaeth am Chwaraeon Cymru Llysgenhadon Ifanc (Yn agor ffenestr newydd) yn Abertawe, neu cysylltwch â'r Tîm Chwaraeon ac Iechyd.