Pobl Ifanc Actif
Hoffai Tîm Pobl Ifanc Actif Abertawe weld pob plentyn yn 'gwirioni ar chwaraeon' am oes

Yn ôl arolwg chwaraeon ysgol diweddaraf Chwaraeon Cymru (2018) a gynhaliwyd yng Nghymru, cymerodd 46.8% o ddisgyblion yn Abertawe ran mewn gweithgaredd a drefnwyd (h.y. chwaraeon allgyrsiol neu fel rhan o glwb) ar dri achlysur neu fwy'r wythnos. Mae'r weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru'n cyfeirio at hyn fel 'gwirioni ar chwaraeon'.
Hoffai Tîm Pobl Ifanc Actif Abertawe weld pob plentyn yn 'gwirioni ar chwaraeon' am oes, a cynhelir llawer o brosiectau, mentrau a digwyddiadau ledled y ddinas i annog ac ysbrydoli ein pobl ifanc o'r blynyddoedd cynnar drwy oedran ysgol a thu hwnt!
Ein Tîm Pobl Ifanc Actif:
- Gwrando ar anghenion pobl ifanc drwy roi cyfleoedd yr hoffent gymryd rhan ynddynt.
- Cynnwys pob person ifanc, a hynny'n llwyr
- Darparu sesiynau chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn amgylchedd diogel, hwyl nad yw'n gystadleuol
- Ein nod yw creu cenhedlaeth o blant a phobl ifanc sy'n gwirioni ar chwaraeon am oes.'
- Rhennir ein Tîm PIA yn bedair ardal glwstwr ar draws Dinas Abertawe. Gweler gwybodaeth gyswllt swyddogion a hyfforddwyr yn eich ardal isod