Toglo gwelededd dewislen symudol

Hawliau'r Plentyn y Cenhedloedd Unedig ac Tîm Pobl Ifanc Actif

Mae'r Tîm Pobl Ifanc Actif wedi gwreiddio Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yn y ffordd rydym yn gweithio.

Mae gan CCUHP 42 erthygl sy'n nodi sut dylid trin plant, a'r pethau y mae eu hangen ar blant i fod yn ddiogel, yn iach ac yn hapus. Mae rhaglenni PIA yn cysylltu'n uniongyrchol â'r erthyglau canlynol:

Erthygl 6 - Mae gennych yr hawl i fywyd ac i dyfu i fod yn iach
Erthygl 12 - Eich hawl i ddweud beth ddylai ddigwydd ac i rywun wrando arnoch
Erthygl 15 - Eich hawl i gyfarfod â ffrindiau ac ymuno â grwpiau a chlybiau
Erthygl 23 - Eich hawl i ofal arbennig a chefnogaeth os ydych yn anabl er mwyn i chi fyw bywyd llawn ac annibynnol
Erthygl 31 - Eich hawl i ymlacio a chwarae

Gallwch gael mwy o wybodaeth am Hawliau'r Plentyn Unicef mewn cydweithrediad â Dinas a Sir Abertawe Hawliau plant a phobl ifanc

Close Dewis iaith