Toglo gwelededd dewislen symudol

Llysgenhadon Ifanc

Un o ddyheadau Chwaraeon Cymru yw sicrhau bod pob plentyn yn gwirioni ar chwaraeon am oes.

Young Ambassadors (IS)
Nod rhaglen y Llysgenhadon Ifanc yw grymuso ac ysbrydoli pobl ifanc i ddod yn fodelau rôl ac yn arweinwyr drwy chwaraeon, gan ddatblygu eu hyder a'u sgiliau er mwyn cynyddu cyfranogiad corfforol gan eraill. Mae'r ymagwedd hon yn grymuso pobl ifanc i wneud eu penderfyniadau eu hunain trwy ymgynghori, arwain a pherchnogaeth.

Mae'r Tîm PIA yn gweithio gyda myfyrwyr cynradd, uwchradd a choleg i ennyn diddordeb pobl ifanc mewn rolau arweinyddiaeth i'w hannog i fod yn frwdfrydig am y rôl y gallant eich chwarae wrth helpu pobl eraill i gadw'n actif!  Mae ein Harweinwyr Ifanc yn rhan o drefnu a chynnal y sesiynau gweithgarwch corfforol yn eu hysgolion a'u cymunedau, ac mae llawer yn cymryd rhan mewn rolau gwirfoddoli gyda'n tîm drwy ddigwyddiadau a gweithgareddau a gynhelir ledled y ddinas.

Am ragor o wybodaeth am y Chwaraeon Cymru Llysgenhadon Ifanc (Yn agor ffenestr newydd).

 

Rôl Llysgenhadon Ifanc yw:

  • Cynyddu cyfranogiad a ffyrdd iach o fyw yn eu hysgol
  • Defnyddio chwaraeon i hyrwyddo gwerthoedd cadarnhaol chwaraeon
  • Bod yn fodel rôl a hyrwyddo AG a chwaraeon ysgol
  • Bod yn llais pobl ifanc ar AG a chwaraeon ysgol yn eu hysgolion a'u cymunedau

Am ragor o wybodaeth am Chwaraeon Cymru Llysgenhadon Ifanc (Yn agor ffenestr newydd) yn Abertawe,  neu cysylltwch â'r Tîm Chwaraeon ac Iechyd.

Close Dewis iaith