Hyfforddiant llywodraethwyr - llywodraethwyr newydd (gorfodol)
Mae hwn yn gwrs gorfodol ar gyfer pob llywodraethwr. Caiff llywodraethwyr nad ydynt yn mynychu'r hyfforddiant hwn o fewn blwyddyn o'u penodiad eu hatal yn awtomatig am 6 mis.
Cwrs nod:
- Bydd y sesiwn hon yn rhoi trosolwg i lywodraethwyr newydd o gyfrifoldebau llywodraethwyr, yr hyn sy'n gwneud corff llywodraethu'n effeithiol a rol llywodraethwyr o ran gwella ysgolion.
- Bydd yn rhoi'r cyfle i chi weithio mewn grwpiau gyda llywodraethwyr newydd eraill ac uwch-swyddogion yr Awdurdod Lleol sy'n ymwneud a chyrff llywodraethu, a derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf i'ch cefnogi yn eich rol newydd.