Due to potential staff shortages we are requesting contact by email rather than by telephone. Any queries relating to school governors should be sent to: schoolandgovernorunit@swansea.gov.uk
All emails received will be responded to as soon as possible.

Llywodraethwyr Ysgolion
Mae dod yn llywodraethwyr ysgol yn un o'r ffyrdd pwysicaf y gallwch helpu'ch ysgol lleol.
Mae rôl strategol gan y corff llywodraethu wrth gydweithio â'r pennaeth i osod nodau ac amcanion yr ysgol, cytuno ar bolisïau, targedau a blaenoriaethau i gyflawni'r amcanion a monitro a gwerthuso'r nodau a'r amcanion er mwyn hyrwyddo safonau cyflawniad uchel. Y pennaeth sy'n rheoli'r ysgol o ddydd i ddydd.
Fel llywodraethwr ysgol, byddwch yn rhan o dîm. Nid yw llywodraethwyr unigol yn gweithredu ar eu pennau eu hunain. Y corff llywodraethu llawn yn unig sydd â'r dyletswyddau a'r pwerau cyfreithiol ac mae'r holl lywodraethwyr yn rhannu'r cyfrifoldeb corfforaethol hwnnw..
Mae corff llywodraethu da'n hanfodol i lwyddiant ysgol. Pam felly?
- Mae llywodraethwyr yn penderfynu ar bethau allweddol, megis penodi'r pennaeth
- Mae penderfyniadau'r llywodraethwyr yn cael effaith uniongyrchol ar addysg a lles plant
- Gall llywodraethwyr wneud gwahaniaeth trwy wella safonau trwy gydol yr ysgol