Toglo gwelededd dewislen symudol

Llawer i'w wneud yn Abertawe y penwythnos hwn

Os ydych chi'n bwriadu treulio amser yn Abertawe y penwythnos hwn, mae llawer o bethau'n digwydd a gallwch gyrraedd y rhan fwyaf ohonynt drwy ddefnyddio'n cynnig bysus am ddim.

Langland beach huts

Mae'r cynnig ar gael o ddydd Gwener i ddydd Llun tan 7pm ac mae'n golygu y gall teuluoedd anelu am y traeth neu'r parc i fwynhau heulwen yr haf am ddim os ydynt yn mynd ar y bws ac yn ei adael yn Abertawe.

Os ydych yn anelu am y traeth, gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd â'ch gwastraff picnic a gwastraff arall adref gyda chi.

Mae staff y cyngor yn cynyddu eu casgliadau sbwriel dros y penwythnos a bydd timau'n dosbarthu bagiau casglu sbwriel am ddim i unrhyw un sydd am gael un. Ond os gwelwch chi fin llawn, ewch â'ch sbwriel adref gyda chi o'r traeth neu'r parc.

Rydym hefyd wedi gosod 15 o finiau ar gyfer barbeciws tafladwy felly does dim esgus i gladdu'ch un chi ar y traeth i eraill sefyll arno a chael eu llosgi!

Ac os ydych yn anelu am y traeth, dewiswch un lle ceir achubwr bywydau'r RNLI. Ceir manylion yma: https://www.abertawe.gov.uk/diogelwchdwrarytraeth

Os ydych yn ffansio mynd ar gefn beic, mae gennym lawer o lwybrau oddi ar y ffordd mewn ardaloedd prydferth i chi roi cynnig arnynt. Beth am gael cip ar ein llwybr diweddaraf yn Townhill yma: https://www.abertawe.gov.uk/article/18029/Llwybr-cerdded-a-beicio-newydd-yn-adennill-hen-leoliad-poblogaidd-ar-gyfer-tipio-anghyfreithlon

Gallech hefyd grwydro o gwmpas canol y ddinas a mwynhau'r arddangosfa newydd The World Reimagined sydd i'w gweld ar y strydoedd. Mae map rhyngweithiol ar-lein yma: https://www.abertawe.gov.uk/GlobesInstalled

Pethau eraill am ddim:

Amgueddfa Abertawe, lle ceir arddangosfa galigraffeg newydd. Geiriau ar ffurf gwbl wahanol: http://www.swanseamuseum.co.uk/

Oriel Gelf Glynn Vivian, llawer o bethau i'w gweld a'u gwneud lle gellir hefyd weld ffilmiau i'r teulu am ddim ar ddydd Sul: www.glynnvivian.co.uk/be-sy-mlaen/?lang=cy

Canolfan Dylan Thomas lle mae llawer o bethau am ddim yn cael eu cynnal i blant: http://www.dylanthomas.com/

Ewch i un o'n hardaloedd chwarae cymunedol am ddim sydd wedi cael eu hailwampio. Mae rhestr ar gael yma: https://www.abertawe.gov.uk/lleoeddchwaraenewydd

Rhagor:

Mae crynhoad o'r holl bethau sy'n digwydd yn Abertawe dros yr haf i'w chael yma: https://www.abertawe.gov.uk/gweithgareddaugwyliau

Ac yma ar gyfer digwyddiadau cymunedol: https://www.abertawe.gov.uk/hafohwyl

 

 

Close Dewis iaith