Toglo gwelededd dewislen symudol

Mabwysiadu mainc - cwestiynau cyffredin

Gallwch gael atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin y gofynnir i ni am fabwysiadu mainc.

 

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng mabwysiadau mainc a rhoi mainc?

Beth sy'n digwydd pan na fydd mainc ar gael yn y lleoliad a ddymunir?

Beth mae'r gost yn ei chynnwys?

Beth sy'n digwydd ar ôl i'r cyfnod o 10 mlynedd ddod i ben?

Beth fydd yn digwydd os yw fy manylion cyswllt yn newid ar ôl i fi fabwysiadu neu roi mainc?

Ydy'r pris yn destun TAW?

Faint o amser mae'r broses yn ei gymryd?

Sut caiff y taliadau eu prosesu?

 

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng mabwysiadu mainc a rhoi mainc?

Gellir mabwysiadu mainc sydd eisoes yn bodoli ond caiff meinciau newydd eu rhoi.

Beth sy'n digwydd pan na fydd mainc ar gael yn y lleoliad a ddymunir?

Os nad oes argaeledd yn y lleoliad a ddymunir, yna bydd aelod o'r tîm parciau'n trafod lleoliadau amgen er mwyn ceisio dod o hyd i leoliad addas.

Beth mae'r gost yn ei chynnwys?

Mae'r gost ar gyfer rhoi mainc newydd yn cynnwys mainc newydd, sylfaen addas, gwaith gosod y fainc, plac dur gwrthstaen wedi'i bersonoli gyda geiriau o'ch dewis.

Mae'r gost ar gyfer mabwysiadu mainc sydd eisoes yn bodoli yn cynnwys y fainc, gwaith gosod plac dur gwrthstaen (sydd wedi'i bersonoli gyda geiriau o'ch dewis), gwaith adnewyddu'r fainc cyn mabwysiadu a gwaith cynnal a chadw'r fainc yn ôl ein disgresiwn.

Beth sy'n digwydd ar ôl i'r cyfnod o 10 mlynedd ddod i ben?

Bydd yr adran Parciau'n cysylltu â'r cleient ar ddiwedd y cyfnod 10 mlynedd i drafod cyfnod mabwysiadu pellach.

Beth fydd yn digwydd os yw fy manylion cyswllt yn newid ar ôl i fi fabwysiadu neu roi mainc?

Y cleient sy'n gyfrifol am roi gwybod i'r cyngor am unrhyw newid o ran manylion cyswllt.

Ydy'r pris yn destun TAW?

Os yw unigolyn preifat yn rhoi neu'n mabwysiadu mainc, ni fydd yn destun TAW. Fodd bynnag, os yw busnesau ne sefydliadau'n rhoi neu'n mabwysiadu mainc, bydd yn destun TAW.

Faint o amser mae'r broses yn ei gymryd?

Unwaith y byddwn yn derbyn ymholiad trwy'r ffurflen ar-lein, caiff ei brosesu cyn gynted â phosib. Bydd aelod o'r tîm Parciau'n cysylltu â chi i drafod lleoliad y fainc. Ar ôl cytuno ar y lleoliad a'r math o fainc, mae'r broses fel arfer yn cymryd hyd at 26-30 wythnos o ddyddiad derbyn y taliad i wneud y gwaith gosod. Mewn amgylchiadau eithriadol gall yr amser prosesu fod yn fwy nag 30 wythnos.

Sut caiff y taliadau eu prosesu?

Unwaith y cytunir ar y lleoliad a'r math o fainc caiff dolen i dalu ar-lein ei e-bostio atoch er mwyn prosesu'r taliad. Os nad oes modd prosesu taliadau ar-lein yna gellir trefnu taliadau dros y ffôn gyda'r adran Parciau.

Close Dewis iaith