Toglo gwelededd dewislen symudol

Mabwysiadu gwely blodau

Mabwysiadu gwely blodau hyfryd yng ngerddi godidog a mawreddog Abertawe.

Mae gan flodau, llwyni a phlanhigion ran bwysig wrth wella a bywiogi'n hamgylchedd dinesig, boed yn ein parciau a'n parciau a'n mannau agored neu ar ein strydoedd.

Mae cynllun 'mabwysiadu gwely blodau' 3 blynedd newydd gan Ddinas a Sir Abertawe'n ffordd wych i gefnogi a gwerthfawrogi'n gerddi ym mharciau Abertawe lle mae llawer o bobl yn mwynhau treulio amser gyda'u teuluoedd ac mae'n rhoi lle i breswylwyr ac ymwelwyr ei werthfawrogi pa bynnag dymor yw ef. Mae'r cynllun yn cynnig y cyfle i gwmnïau, sefydliadau neu unigolion i fabwysiadu gwely blodau a chynyddu ymwybyddiaeth o'r cwmni neu'r sefydliad, neu i gofio am anwylyn a chael lle personol a diriaethol yn un o erddi hardd Abertawe.

Mae gennym welyau blodau yn nifer o'n parciau yn y ddinas sy'n cael eu cynnal gan ein tîm parciau'n llawn amser.

Mae pobl, busnesau a grwpiau cymunedol yn cael y cyfle i fabwysiadu gwely blodau yn 2 o'n parciau mwyaf poblogaidd a mawreddog yn y ddinas. Mae'r gwelyau blodau ym Mharc Victoria, parc hynaf Abertawe, yn arddangos gerddi rhosod, llwyni a phlanhigion anhygoel. Mae ein gerddi botaneg yn arddangos eu blodau a phlanhigion unigryw ym Mharc Singleton.

Bydd unrhyw fusnes, sefydliad neu unigolyn sy'n mabwysiadu gwely blodau'n derbyn ffrâm bren i'w chadw gyda phlac dur gwrthstaen wedi'i engrafu yn y gwely blodau o'u dewis i gydnabod eu cyfraniad a'u cefnogaeth i'r amgylchedd yn ogystal â gwneud Abertawe'n ddinas fywiog a lliwgar ac yn lle gwych i fyw ynddo.

Dim ond Parc Victoria a gwelyau blodau'r Gerddi Botaneg Singleton sy'n rhan o'r cynllun hwn.

Sut mae cyflwyno cais

Unwaith byddwch wedi penderfynu ar eich lleoliad, a'ch bod am barhau â mabwysiadu gwely blodau, cwblhewch y ffurflen ar-lein isod.

Gwneud cais ar lein - mabwysiadu gwely blodau Mabwysiadu gwely blodau - Gwneud cais ar lein

Mabwysiadu gwely blodau - Gwneud cais ar lein

Gallwch wneud cais ar-lein i mabwysiadu gwely blodau.

Mabwysiadu gwely blodau - amodau a thelerau

Darllenwch ein hamodau a'n telerau.
Close Dewis iaith