Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Mabwysiadu mainc - seddi a roddir

Manylion y seddi a roddir sydd ar gael.

Gallwn ddarparu seddi cadarn gyda'ch neges bersonol ynghlwm wrth blac.

Lle bynnag y bo modd, darperir meinciau cynaliadwy a wneir gan dîm prosiect Pren Gwastraff Cyngor Abertawe gan ddefnyddio pren gwastraff o barciau a mannau gwyrdd Abertawe. Er bod y meinciau'n cael eu gwneud i ddyluniad penodol, mae pob un yn unigryw ond mae pob un ohonynt yn seddi pren trwm o ddyluniad cain.

Mewn rhai amgylchiadau, bydd angen un o'r arddulliau mainc isod oherwydd meinciau eraill sydd eisoes wedi'u gosod mewn ardaloedd penodol.

Meinciau pwrpasol

Sedd bren drom o ddyluniad cain, wedi'i gwneud yn ôl yr archeb yn Abertawe gan ddefnyddio pren cynaliadwy lleol.

Sedd Grafton

Sedd arddull gyfoes gyda ffrâm haearn bwrw ac estyll pren caled a chaen sy'n gwarchod y ffrâm rhag effeithiau'r môr. Mae'r ffrâm sylweddol a'r estyll pren trwm yn gwneud y sedd hon yn addas ar gyfer ardaloedd defnydd trwm. Mae'r arddull hon yn fwyaf cyffredin mewn lleoliadau blaendraeth fel Promenâd Abertawe.

Sedd o blastig wedi'i ailgylchu

Sedd drom a chadarn wedi'i gwneud yn gyfan gwbl o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu o blastigion a ddefnyddiwyd gan ddiwydiant a defnyddwyr. Mae'n gallu gwrthsefyll tywydd garw a phrin iawn yw'r gwaith cynnal a chadw mae ei angen arni. Ar gael mewn lliw brown neu wyrdd.

Sedd Harlech

Mae hon yn sedd boblogaidd a chost-effeithiol, sy'n gadarn iawn ac yn gwrthsefyll fandaliaeth.

Sedd Brompton

Sedd bren drom a dyluniad traddodiadol i'w defnyddio yng Ngerddi Botaneg Parc Singleton a Gerddi Clun yn unig. Mae'r estyll cefn 16mm o drwch yn lleihau fandaliaeth heb ddefetha ceinder cynhenid y dyluniad hwn.

Close Dewis iaith