Toglo gwelededd dewislen symudol

Mathau o weithredoedd twyllodrus

Mae yna nifer o fathau o weithredoedd twyllodrus. Gallant gyrraedd drwy'r post, trwy e-bost, dros y ffôn, neu gallwch gael eich twyllo gan bobl yr ydych yn eu cyfarfod.

I'ch cadw'n effro weithredoedd twyllodrus rydym wedi cyflwyno gwybodaeth isod sy'n dangos y weithredoedd twyllodrus mwyaf cyffredin yr ydym yn derbyn adroddiadau amdanynt. Cofiwch, ychydig yn unig o'r weithredoedd twyllodrus y gallwch ddod ar eu traws yw'r rhain. Mae gennym awgrymiadau ar sut i'ch diogelu rhag gweithredoedd twyllodrus yn ogystal â'r rhybuddion gweithredoedd twyllodrus diweddaraf gan Safonau Masnach Abertawe.

Gweithredoedd twyllodrus loteri neu raffl

Cewch wybod eich bod wedi ennill gwobr mewn cystadleuaeth nad ydych wedi cymryd rhan ynddi. Yn aml bydd loterïau wedi'u sefydlu dramor a gallech chi fod yn cysylltu â rhywun sy'n esgus gweithio i loteri ddilys.

I hawlio'r wobr, bydd rhaid i chi dalu ffi weinyddu ac anfon dogfennau personol iddynt megis copi o'ch pasbort. Byddwch yn talu'r ffi a naill ai'n derbyn dim byd yn ôl, neu'n derbyn rhywbeth gwerth llai na'r ffi wreiddiol a dalwyd. Gyda'ch manylion personol gall y rhai sy'n cyflawni'r weithred dwyllodrus hyd yn oed dwyn eich hunaniaeth.

Gweithred twyllodrus clirweledol/seicig

Gall y rhai sy'n cyflawni'r weithred dwyllodrus gysylltu â chi i ddweud eu bod wedi gweld rhywbeth rhyfeddol neu erchyll yn eich dyfodol. Ni allant ddweud wrthych chi beth yw hyn, oni bai eich bod yn talu ffi weinyddu fechain. 

Gweithred twyllodrus etifeddiaeth

Bydd cyfreithiwr, neu swyddog cyfreithiol arall yn cysylltu â chi a bydd yn dweud wrthych chi fod rhywun â'ch cyfenw wedi marw a gadael ffortiwn sylweddol i chi. Maent wedi methu olrhain unrhyw berthynas ac os na fydd unigolion yn datgelu ei hunain bydd yr arian yn trosglwyddo i'r llywodraeth. Maent yn ceisio'ch perswadio i hawlio'r arian ac i'w rannu â'r rhai sy'n cyflawni'r weithred dwyllodrus. Byddant yn gofyn i chi dalu ffïoedd cyfreithiol i sicrhau etifeddiaeth nad yw'n bodoli. Gallent hefyd ofyn am eich manylion banc a gallent ddwyn arian o'ch cyfrif.

Dynwared swyddogion neu gwmnïau

Byddwch yn derbyn llythyr neu e-bost sy'n dweud ei fod yn swyddog o ryw sefydliad fel yr HMRC, neu gwmni fel PayPal. Byddant yn dweud eich bod yn aros am ad-daliad neu'n mynnu taliad gennych chi ar gyfer ffïoedd a chostau sy'n ddyledus.

Adennill gweithred dwyllodrus

Rydych wedi dioddef twyll yn y gorffennol ac mae person sy'n cyflawni gweithred dwyllodrus yn cysylltu â chi yn dweud ei fod yn medru adennill yr arian a gollwyd. Gall esgus ddod o gwmni cyfreithlon, ond ni fydd yn gallu adennill eich arian, a gall ofyn am fwy o ffïoedd gennych.

Gweithred dwyllodrus elusen

Gofynnir i chi wneud cyfraniad tuag at grŵp o bobl neu achos elusennol. Gallent hyd yn oed defnyddio enw elusennau adnabyddus a chadw'r arian i'w hunain. Os gofynnir i chi gyfrannu drwy wefan, gallai fod yn un ffug, a gallent gofnodi manylion eich cyfrif banc a defnyddio manylion eich cyfrif i brynu pethau. Os gofynnir i chi gyfrannu dros y ffôn, gallai fod yn rhif tâl premiwm. 

Mae elusennau dilys wedi'u cofrestru gyda'r Comisiwn Elusennau ac maent yn argraffu eu manylion cofrestru ar fagiau, tuniau ac amlenni a ddefnyddir ar gyfer casgliadau. Gallwch ffonio ei linell gymorth ar 0845 300 0218 neu fynd i www.charity-commission.gov.uk (Yn agor ffenestr newydd) lle mae yna gofrestr elusennau ar-lein.

Pensiynau

Mae pensiynau wedi newid ac mae'r rhai sy'n cyflawni'r weithred dwyllodrus nawr yn cynnig trosglwyddo budd-daliadau pensiwn i arian parod cyn 55 oed. Gellir gofyn i chi dalu ffïoedd gweinyddol i wneud hyn. Gallech hefyd dderbyn gwybodaeth anghywir ganddynt ynglŷn â gwerth adenillon ar unrhyw fuddsoddiad maent yn gwneud ar eich rhan. Gallech hefyd fod yn atebol am daliadau dilys o ffïoedd a threthi. 

Gweithredoedd twyllodrus cyfrifiaduron neu'r rhyngrwyd

Gall person sy'n cyflawni gweithred dwyllodrus, sy'n esgus gweithio i gwmni megis Microsoft neu Apple, gysylltu â chi a dweud bod problem gyda'ch cyfrifiadur. Yna bydd yn gofyn i chi lawrlwytho meddalwedd i'w drwsio. Gall hyn osod firws ar eich cyfrifiadur sy'n llygru'ch data'n gyfan gwbl. Gall hefyd gael mynediad i'ch ffeiliau a gweld gwybodaeth bersonol. Gall y rhai sy'n cyflawni gweithred dwyllodrusl hefyd ofyn am ffioedd i ddilysu meddalwedd sydd ar eich cyfrifiadur. 

 

Os ydych wedi colli arian oherwydd unrhyw weithred dwyllodrus uchod neu ryw weithred dwyllodrus arall, gallwch roi gwybod i Action Fraud, canolfan hysbysu twyll y DU ar gyfer twyll neu seiberdroseddu. Gallwch roi gwybod ar-lein yn www.actionfraud.police.uk/report_fraud (Yn agor ffenestr newydd) neu dros y ffôn ar 0300 123 2040.

Mae Action Fraud yn rhestri A-Z o dwyll (Yn agor ffenestr newydd) gyda thros 150 o wahanol fathau o dwyll a gweithredoedd twyllodrus.

Cofiwch, er nad yw wedi'i rhestru yma, nid yw'n golygu nad yw'n weithred dwyllodrus. Os yw rhywbeth yn ymddangos yn rhy dda i'w gredu, mae'n debygol ei fod, ac ni ddylech ymateb iddo na'i olrhain ymhellach.

Close Dewis iaith