Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cenhedlaeth newydd o finiau sbwriel amlbwrpas wedi'i chynllunio ar gyfer y ddinas

Disgwylir i Gyngor Abertawe gyflwyno nifer o finiau sbwriel amlbwrpas newydd.

bin stock pic

Yn ystod y misoedd nesaf mae'r cyngor yn bwriadu rhoi biniau newydd mewn cymunedau ar draws y ddinas y gall preswylwyr eu defnyddio ar gyfer unrhyw fath o sbwriel, a fydd naill ai'n cymryd lle hen finiau baw cŵn neu finiau sbwriel sydd wedi'u difrodi. 

Dywedodd Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymunedol, fod y fenter newydd wedi'i chynllunio i wella'r ddarpariaeth finiau ar draws Abertawe ac i gefnogi preswylwyr a pherchnogion cŵn i wneud y peth iawn gyda'u sbwriel neu wastraff eu hanifeiliaid anwes.

Meddai, "Mae gennym eisoes lawer o finiau sbwriel a baw cŵn ar wahân ar draws y ddinas.  Rydym yn ymrwymo i gael gwared ar finiau presennol lle gellir rhoi biniau amlbwrpas newydd yn eu lle yn unig, er mwyn sicrhau na fydd nifer cyffredinol y biniau a ddarperir yn lleihau o gwbl.

"Mae'r rhan fwyaf o breswylwyr yn gwneud y peth iawn gyda'u sbwriel a gwastraff eu hanifeiliaid anwes. Ond rydym am atgoffa pobl, os bydd y bin y llawn neu os nad oes bin gerllaw, yna dylent fynd â'u gwastraff adref gyda nhw.

"Rydym hefyd am i berchnogion cŵn wybod bod croeso iddynt roi gwastraff eu hanifeiliaid anwes mewn bin sbwriel. Rhaid rhoi gwastraff cŵn mewn bag ac yn y bin neu rhaid mynd ag ef adref gyda chi, ond does dim rhaid i chi ei roi mewn bin gwastraff cŵn; mae croeso i chi ei roi yn y bin agosaf o unrhyw fath." 

Mae'r cynlluniau ar gyfer biniau sbwriel amlbwrpas newydd yn rhan o strategaeth sbwriel newydd y cyngor, sydd hefyd yn cynnwys mesurau i gynyddu gweithredoedd gorfodi yn erbyn y rheini nad ydynt yn gwneud y peth iawn i'w cymuned trwy waredu sbwriel neu wastraff cŵn yn gywir.

Mae'r fenter hefyd yn rhan o addewid ymrwymiadau polisi'r cyngor y cytunwyd arno ym mis Mehefin, sy'n addo i wneud cynnydd trwy adnewyddu biniau o fewn 100 niwrnod.

Mae trafodaeth hefyd ar y gweill o ran cyflwyno biniau clyfar newydd sy'n anfon negeseuon i'r tîm glanhau i roi gwybod iddynt eu bod yn llawn.

 

Close Dewis iaith