Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Trawsnewidiad anhygoel ar gyfer ardal chwarae boblogaidd

Mae ardal chwarae boblogaidd ag ôl traul arni yn Nhreforys wedi bod yn destun gwaith trawsnewid anhygoel er mwyn i genhedlaeth newydd o bobl ifanc ei mwynhau.

play area heol tir du

Agorodd ardal chwarae Heol Tir Du ar ei newydd wedd i'r cyhoedd ifanc am y tro cyntaf yr wythnos hon ac mae'n edrych yn gwbl wahanol.

Diolch i gyfuniad o gyllid gan Gronfa Adfywio Economaidd Cyngor Abertawe ac aelodau ward lleol, mae gan yr ardal chwarae newydd 40 o nodweddion newydd sy'n darparu ar gyfer hyd at 70 o blant ar y tro.

Mae ffrâm ddringo tebyg i we corryn, 4m o uchder, dwy uned aml-chwarae, siglenni triphlyg a llawer o offer chwarae hygyrch ac arwyneb chwarae pob tywydd newydd sy'n addas i ddefnyddwyr wedi trawsnewid y safle'n llwyr.

Dywedodd Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, mai'r ardal chwarae newydd oedd yr union beth yr oedd pobl leol wedi bod yn galw amdani.

Meddai, "Mae'n wych gweld yr ardal chwarae newydd hon. Mae'n lliwgar, mae'n gyffrous ac mae'n cynnig cyfleoedd diddiwedd i bobl ifanc chwarae a chael hwyl gyda'u ffrindiau - a hynny mewn pryd ar gyfer gwyliau hanner tymor mis Hydref.

"Ar adeg pan fo pobl yn wynebu argyfwng costau byw, mae'r ardal chwarae newydd yn ffordd wych i deuluoedd a ffrindiau ddod at ei gilydd i gymryd rhan mewn gweithgareddau a chwarae am ddim. Dyna pam mae seddi a biniau sbwriel wedi'u cynnwys.

"Dyma rywle i bobl leol fynd iddo, ac rwy'n siŵr y bydd pawb yn gofalu amdano."

Dywedodd Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, mai Heol Tir Du oedd y diweddaraf mewn rhestr hir o waith uwchraddio a gwblhawyd ac sydd eto i ddod.

Meddai, "Yn ystod y pandemig, sylweddolom pa mor bwysig yw ardaloedd chwarae fel canolbwynt cymunedau. Roedden ni am annog pobl ifanc, eu rhieni a'u gofalwyr i barhau i fwynhau gweithgaredd awyr agored am ddim sy'n dda ar gyfer iechyd ac yn wych ar gyfer lles hefyd.

"Ni yw'r unig awdurdod lleol yng Nghymru sy'n buddsoddi cymaint o amser ac arian i drawsnewid ardaloedd chwarae mewn cymunedau lleol.

"Hyd yn hyn rydym wedi gwneud gwaith uwchraddio mewn mwy na 40 o ardaloedd chwarae ar draws y ddinas. Rydyn ni am roi sicrwydd i bobl ifanc a'u rhieni fod mwy i ddod ar draws y ddinas yn y misoedd nesaf - o Barc Maesteg a Phwynt Abertawe yn y dwyrain i Barc Dyfnant a Pharc Ynysnewydd yn y gorllewin."

I gael gwybod mwy am y genhedlaeth newydd o ardaloedd chwarae cymunedol yn Abertawe, ewch i: https://www.abertawe.gov.uk/lleoeddchwaraenewydd

Close Dewis iaith