Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Mynwent Cwmgelli

Mae Mynwent Cwmgelli'n cwmpasu oddeutu 8 erw yn ardal Treboeth ac fe'i hagorwyd ar gyfer claddedigaethau ym 1896.

  • Nid oes lle ar gael mwyach ar gyfer beddau newydd; er y mae modd claddu eirch mewn beddau teulu sydd eisoes yno (yn amodol ar ddyfnder);
  • Gellir claddu llwch mewn lleiniau briciau/pridd newydd a hefyd mewn beddau teulu presennol;
  • Gellir gwasgaru llwch ar feddau teuluol presennol neu mewn gerddi dynodedig;
  • Mae'r gwasanaethau ar gael rhwng dydd Llun a dydd Sadwrn am gyfnodau o 30 munud.

Seiri meini coffa sy'n gysylltiedig â chynllun Cofrestr Seiri Meini Coffa Achrededig Prydain (BRAMM) yn unig sy'n gallu codi cerrig coffa. Gellir codi cerrig coffa lawnt ac ymylfeini ar unrhyw fedd (yn amodol ar reoliadau).

Oriau agor

Nid oes cyfyngiadau ar fynediad i gerddwyr; fodd bynnag, caniateir cerbydau yn ystod yr oriau canlynol yn unig:

  • Dydd Llun i ddydd Iau rhwng 9.00am a 4.30pm 
  • Dydd Gwener rhwng 9.00am a 4.00pm 
  • Penwythnosau a Gwyliau Banc rhwng 10.00am a 4.00pm

Rhaid i yrwyr yrru'n araf a dangos gofal dyladwy i unrhyw gerddwyr yn y fynwent.

Mynd â chŵn am dro

Caniateir cŵn yn y fynwent ond mae'n rhaid eu cadw ar dennyn a dan reolaeth bob amser; mae'n rhaid i berchnogion cŵn ddangos parch ac ystyriaeth i ymwelwyr eraill drwy gadw at y llwybrau a pheidio â cherdded ar feddau a gerddi coffa gyda'u cŵn; mae'n rhaid codi unrhyw faw cŵn ar unwaith a'i roi yn y biniau a ddarperir. Gall goruchwyliwr y fynwent wrthod mynediad i dir y fynwent os na chydymffurfir â'r amodau hyn.

Teithio i Fynwent Cwmgelli

Côd Post-SA5 9DB

Teithio mewn car - Gadewch yr M4 wrth Gyffordd 42 ac ewch tuag at Abertawe ar yr A4067/Ffordd Cwm Tawe. Wrth y cylchfan cyntaf, ewch yn syth ymlaen. Wrth yr ail gylchfan, symudwch i'r lôn ar y llaw dde a chymryd y drydedd gyffordd tuag at Frynhyfryd i Heol Cwm Level. Parhewch i fyny'r ffordd a chymerwch y trydydd troad i'r dde ar Heol y Cwar, ac yna'r troad nesaf ar y dde i Heol Nant Gelli. Parhewch yn syth ymlaen. Ar ben pellaf y ffordd mae arwydd stryd bengaead o'ch blaen. Parhewch yn syth ymlaen a bydd gatiau'r fynwent o'ch blaen.

Teithio ar fws -Mae'r fynwent yn agos i lwybr bysus ac mae'r gwasanaeth yn mynd yn rheolaidd o Orsaf Fysus y Cwadrant Abertawe i Dreforys; mae arosfannau bysus ar Heol Llangyfelach, taith gerdded fer o 5 i 10 munud i'r fynwent.

Teithio ar drên - Yr orsaf agosaf yw Gorsaf Abertawe ar y Stryd Fawr. Gellir cael bysus a thacsis o flaen yr orsaf. Mae'n cymryd tua 15 munud i yrru i Fynwent Cwmgelli.

Mynwent Cwmgelli

Enw
Mynwent Cwmgelli
Rhif ffôn symudol
07980 721558
Close Dewis iaith