Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Mynwent Treforys

Mae Mynwent Treforys yn cwmpasu oddeutu 38 erw yng ngogledd y ddinas ac fe'i hagorwyd ar gyfer claddedigaethau ym 1915.

  • Mae beddau newydd ar gael er mwyn claddu eirch, ac yn ogystal, gellir ailagor beddau teuluol sydd eisoes yno (yn amodol ar ddyfnder).
  • Mae adran gladdu benodol ar gyfer babanod bach.
  • Mae adran gladdu benodol ar gyfer y gymuned Tsieineaidd.
  • Gellir claddu llwch mewn lleiniau briciau/pridd newydd a hefyd mewn beddau teulu sy'n bod.
  • Gellir gwasgaru llwch ar feddau teulu presennol neu yn Ardd Goffa'r amlosgfa.
  • Mae gwasanaethau ar gael rhwng dydd Llun a dydd Sadwrn am gyfnodau o 30 munud.

Seiri meini coffa sy'n gysylltiedig â chynllun Cofrestr Seiri Meini Coffa Achrededig Prydain (BRAMM) yn unig sy'n gallu codi cerrig coffa. caniateir cerrig coffa lawnt ar unrhyw fedd; fodd bynnag, gellir codi cerrig coffa ag ymylfeini ar feddau yn y rhannau traddodiadol yn unig.

Oriau agor

Nid oes cyfyngiadau ar fynediad i gerddwyr; fodd bynnag, caniateir cerbydau yn ystod yr oriau canlynol yn unig:

  • Dydd Llun i ddydd Iau rhwng 9.00am - 4.30pm 
  • Dydd Gwener rhwng 9.00am - 4.00pm 
  • Penwythnosau a Gwyliau Banc rhwng 10.00am - 4.00pm

Rhaid i yrwyr yrru'n araf a dangos gofal dyladwy i unrhyw gerddwyr yn y fynwent.

Mynd â chŵn am dro

Caniateir cŵn yn y fynwent ond mae'n rhaid eu cadw ar dennyn a dan reolaeth bob amser; mae'n rhaid i berchnogion cŵn ddangos parch ac ystyriaeth i ymwelwyr eraill drwy gadw at y llwybrau a pheidio â cherdded ar feddau a gerddi coffa gyda'u cŵn; mae'n rhaid codi unrhyw faw cŵn ar unwaith a'i roi yn y biniau a ddarperir. Gall goruchwyliwr y fynwent wrthod mynediad i dir y fynwent os na chydymffurfir â'r amodau hyn.

Teithio i Fynwent Treforys

Côd Post - SA6 6BY

Teithio mewn car - O'r dwyrain, gadewch yr M4 wrth Gyffordd 46 gan gymryd y tro cyntaf i'r chwith wrth y cylchfan i fynd ar yr A48 (Heol Clasemont) tuag at Abertawe. Os ydych yn teithio o'r gorllewin, gadewch yr M4 ar gyffordd 46 a throwch i'r dde wrth y cylchfan cyntaf tuag at Langyfelach. Yna, cymerwch y troad cyntaf ar y chwith wrth y cylchfan nesaf, cadwch i'r dde a gyrrwch yn syth ymlaen wrth y cylchfan bach (gan fynd heibio arwyddion ar gyfer Adran Damweiniau ac Argyfyngau Ysbyty Treforys). Rhai cannoedd o lathenni o'ch blaen, tuag at adeilad y DVLA, trowch i'r dde i Heol Pentre Felin. Gyrrwch i fyny'r bryn ac wrth y cylchfan bach, dilynwch y ffordd i'r chwith drwy'r gatiau i fynwent Treforys. 

Teithio ar fws - Mae'r fynwent ar y prif lwybr bysus ar gyfer Treforys, y Clâs neu'r DVLA o Orsaf Fysus y Cwadrant Abertawe.

Teithio ar drên - Yr orsaf agosaf yw Gorsaf Abertawe ar y Stryd Fawr. Gellir cael bysus a thacsis o flaen yr orsaf. Mae'n cymryd tua 15 munud i yrru i Fynwent Treforys.

Close Dewis iaith