Toglo gwelededd dewislen symudol

Mynydd Bach y Cocs (wedi'i gysylltu â Chomin Fairwood)

Comin 65 hectar yw hwn wedi'i gysylltu gan lwybr troed â Choed Gelli Hir - safle sy'n eiddo i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru sy'n ei reoli.

Ceir cymysgedd o rostir, prysgwydd a glaswelltir ar y comin. Mae sawl llwybr troed a ffordd fach yn croesi'r safle.

Dynodiadau

  • Safle o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur (SBCN, Mynydd Bach y Cocs)

Cyfleusterau

Mae'r cyfleusterau agosaf yn y Crwys, tua 1.5 milltir i ffwrdd:

  • Tafarn y Joiners Arms
  • Tafarn y Poundffald
  • Siop y Country Stores

Gwybodaeth am fynediad

Ger y Crwys a Wernbwll, Gŵyr
Cyfeirnod Grid SS558937 
Map Explorer yr Arolwg Ordnans 164 Gŵyr

Llwybrau troed

Mae sawl llwybr cerdded yn croesi'r safle.

Ceir

O'r Crwys ewch ar y ffordd fach i'r gorllewin i gyfeiriad Cilonnen.

Bysus

Mae'r safle bws agosaf yn y Crwys, tua 1.5 milltir o'r safle.

Close Dewis iaith