Toglo gwelededd dewislen symudol

Mynydd Bach Y Glo

Tir comin tua 34 hectar yw hwn, wedi'i groesi gan reilffordd, ac mae'n cynnwys amrywiaeth o gynefinoedd.

Mae o bwysigrwydd arbennig oherwydd ei leoliad ar y cyrion trefol. Mae'r comin yn cynnwys rhedyn trwchus neu borfeydd hesg ac o'r herwydd mae'n anodd mynd iddo.

Ceir glaswelltir asidig sydd wedi'i wella'n rhannol ar hanner dwyreiniol y safle a glaswelltir corsiog i'r gorllewin a'r gogledd. Mae planhigfa goetir fach (conifferaidd) ynghyd â derw a phoplys rhwng y ddwy ardal laswelltir. Ceir pwll pysgota mawr ac ardal lanio i awyrennau model yno hefyd.

Dynodiadau

  • Safle o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur (SBCN, Mynydd Bach Y Glo)
  • Tir Mynediad Agored

Gwybodaeth am fynediad

Map Explorer yr AO 165 Abertawe
Ystâd Ddiwydiannol Fforest-fach/Waunarlwydd
Cyfeirnod Grid SS610975

Mynediad yn bosib o Ystâd Ddiwydiannol Fforest-fach.

Llwybrau troed

Mae mynediad agored ar draws y safle gyda rhai llwybrau yn y rhan orllewinol (glaswelltir corsiog) er nad ydynt yn ffyrdd tramwy dynodedig.

Ceir

Mae'r heol drwy Ystâd Ddiwydiannol Fforest-fach yn rhedeg wrth ymyl ffin ddwyreiniol y comin ac mae'r B41295 (Heol Cwmbach) yn rhedeg drwy ran ddeheuol y safle.

Close Dewis iaith