Mynydd Cilfái
Mynydd Cilfái, tirnod blaenllaw, sylweddol (3km sgwâr) yn nwyrain Abertawe. Ceir coetir cymunedol yma a reolir gan Wirfoddolwyr Coetir Cymunedol Cilfái, Menter Coedwigaeth Cymru a Dinas a Sir Abertawe.
Mae'n goetir ifanc ac yn lloches i fywyd gwyllt yn y ddinas, gydag amrywiaeth o gynefinoedd gan gynnwys coetir, gweunydd, gwlypdir a dolydd.
Mae'n un o'r coetiroedd mwyaf ar gyrion ardal drefol Abertawe ac mae'n cynnig golygfeydd godidog dros ddinas a Bae Abertawe.
Dewch i edrych am adar fel ehedyddion, troellwyr, llinosod, hebogau tramor, esgyll cochion, y fronfraith, adar yr eira, cigfrain a llwydfron. Mae'r pili-pala glas bach prin hefyd wedi'i weld ar y safle.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Crymlyn ychydig bellter i'r dwyrain.
Uchafbwyntiau
Mae Coetir Cymunedol Cilfái yn ardal arbennig iawn, ac mae'n darparu amrywiaeth o weithgareddau hamdden ac yn cynnig golygfeydd godidog ar draws Abertawe a thu hwnt.
Dynodiadau
- Safle o Bwys Cadwraeth Natur (SBCN 228, Pluck Lake a 224 Mynydd Cilfái)
- Coedwig Gymunedol
Cyfleusterau
- Maes Parcio
Gwybodaeth am fynediad
Bôn-y-maen, St Thomas
Cyfeirnod Grid SS675940
Map Explorer yr AO 165 Abertawe
Llwybrau Cerdded
Caniateir llwybrau i groesi'r safle.
Ceir
Cymerwch yr A4217 o Ddociau Abertawe. 1 km ymhellach ymlaen gwelir y maes parcio ar gyfer Coetir Cymunedol Mynydd Cilfái ar y dde.
Bysus
Mae bysus yn teithio'n rheolaidd o Ganol y Ddinas i St Thomas, Bôn-y-maen a'r Parth Menter, lle gallwch gerdded i mewn i'r Coetir.