Toglo gwelededd dewislen symudol

Mynydd Garn Goch

Safle 182 hectar o faint ar ymyl ystâd ddiwydiannol Penllergaer yw hwn. Mae Heol Tregŵyr (A484), Heol Abertawe (B4620) a Heol yr Ysbyty yn croesi'r safle.

Mae'r safle'n cynnwys cynefinoedd bywyd gwyllt pwysig, megis glaswelltir molinia, glaswelltir corsiog, prysgwydd, glaswelltir niwtral, glaswelltir asidig, rhos cen/brÿoffyt a phyllau.

Uchafbwyntiau

Mae llawer o rywogaethau bywyd gwyllt pwysig wedi'u gweld ar y safle gan gynnwys:

  • Adar: yr ehedydd, y fronfraith, y llinos, bras y gors, coch y berllan, y dylluan wen, socan yr eira, y coch dan aden a'r gïach.
  • Planhigion: banadl, eithin, eithin y mynydd, tegeirian brych y rhos a thegeirian y gors deheuol.

Dynodiadau

  • Safle o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur (SBCN)

Cyfleusterau

  • Ym Mhenllergaer mae'r cyfleusterau agosaf

Gwybodaeth am fynediad

Dwy ochr yr A484 ac ochr ogleddol yr A4240, Penllergaer
Cyfeirnod Grid SS610980
Map Explorer yr AO 165 Abertawe

Llwybrau cerdded

Tir mynediad agored yw'r comin ac mae un llwybr cerdded yn croesi'r safle.

Ceir

Nid oes cyfleusterau parcio ar y safle. Ym Mhenllergaer mae'r lleoedd parcio agosaf.

Bysus

Mae'r safle bws agosaf ar ben dwyreiniol Ystâd Ddiwydiannol Penllergaer.

Close Dewis iaith