Toglo gwelededd dewislen symudol

Mynydd Gelliwastad, Comin Rhyddwen a Choed Homelean

Mynydd hir, cul (79.4 hectar) yw Mynydd Gelliwastad sydd â golygfeydd hyfryd o ddwy ochr y cwm.

Ceir ardaloedd o rostir â llusi a choetir bach tua phen gogleddol y safle. Comin bach coediog yw Comin Rhyddwen (14.6.hectar) gerllaw Mynydd Gelliwastad ar ei ffin ddwyreiniol a chyda nant - Nant y Milwr - ar ei ffin orllewinol.

Mae Coed Homelean oddeutu 68 hectar sy'n cynnwys cynefinoedd ucheldir. Mae ardaloedd iseldir y safle yn cynnwys brithwaith o goetir llydanddail lled-naturiol lle mae'r dderwen a'r fedwen yn flaenllaw, cor-ros asidig sych, glaswelltir wedi'i wella, ardaloedd lle mae'r rhedyn yn flaenllaw a'r llethrau uchaf o dan orchudd darnau o brysgwydd trwchus/di-dor wedi'u cymysgu â bedw yn bennaf.

Uchafbwyntiau

Cadwch lygad am y barcud coch - mae'r aderyn ysglyfaethus hwn wedi cael adferiad aruthrol (wedi'i helpu'n rhannol trwy raglen ailgyflwyno) ar ôl bod ar drengi yn y DU.

Dynodiadau

  • Safleoedd o Ddiddordeb Cadwraeth Natur (SBCN, Coed Homelean a Mynydd Gelliwastad)

Cyfleusterau

  • Maes parcio gerllaw ar y B4291 rhwng Clydach a Chraig-cefn-parc
  • Mae tafarn ychydig o bellter ar y ffordd tuag at Glydach o'r maes parcio
  • Mae siop yng Nghraig-cefn-parc

Gwybodaeth am fynediad

Clydach
Cyfeirnod Grid SN678018
Map Explorer yr AO 165 Abertawe

Llwybrau

Tir mynediad agored yw'r safle er bod llwybrau troed yn arwain i'r safle o'r B4291 rhwng Clydach a Chraig-cefn-parc.

Ceir

Lle parcio gerllaw, oddi ar Heol Clydach (fe'i nodir ar fap yr AO).

Bysus

Mae'r safleoedd bysus agosaf ar y B4291 rhwng Clydach a Chraig-cefn-parc.

Close Dewis iaith