Toglo gwelededd dewislen symudol

Cabinet newydd y cyngor yn cael ei gyhoeddi.

Mae Cabinet newydd Cyngor Abertawe wedi'i ddatgelu.

Swansea Bay

Cyhoeddwyd y Cabinet newydd gan Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, mewn cyfarfod o'r cyngor ar 24 Mai ac mae'n cynnwys pum swydd ddi-dâl newydd ar gyfer cynorthwywyr Cabinet i gefnogi Aelodau'r Cabinet yn eu rolau eang.

Dan y trefniadau newydd, bydd y Cyng. David Hopkins a'r Cyng. Andrea Lewis yn ddirprwy arweinwyr ar y cyd, gyda'r Cyng. Lewis yn gofalu am y portffolio Trawsnewid Gwasanaethau a'r Cyng. Hopkins yn gyfrifol am Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad.

Rhennir swydd y Cabinet Cymunedol rhwng y Cynghorydd Hayley Gwilliam sydd newydd ei hethol, a fydd yn gofalu am gefnogaeth gymunedol, a'r Cyng. Cyril Anderson a fydd yn gofalu am wasanaethau cymunedol.

Dywedodd y Cyng. Stewart y crëwyd y tîm newydd i yrru agenda'r cyngor yn ei blaen dros y misoedd a'r blynyddoedd i ddod.

Meddai, "Mae Cyngor Abertawe wedi cael ei drawsnewid dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gan greu ymagwedd newydd sydd wedi cefnogi'n cymunedau drwy'r amserau mwyaf anodd yn ystod y pandemig a'r sgîl-effeithiau wedi hynny.

"Mae'r cyngor wedi cyflwyno Arena Abertawe ac mae'n parhau â'i waith i adfywio canol y ddinas yn awr ac yn y blynyddoedd i ddod. Mae wedi cefnogi preswylwyr drwy fentrau sy'n amrywio o grantiau ariannol uniongyrchol i greu Cydlynwyr Ardaloedd Lleol.

"Drwy weithio gyda'n cymunedau, mae'r cyngor yn bwriadu achub ar gyfleoedd ac wynebu heriau'r dyfodol gyda'n gilydd.

"Ond mae swm enfawr o waith i'w wneud i wireddu dyheadau'r cyngor ar gyfer ein dinas a sicrhau ein bod yn cefnogi'n cymunedau i ffynnu ar eu potensial."

Dan drefniadau'r Cabinet newydd, mae'r Cyng. Robert Smith yn aros yn ei rôl fel Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu ac mae'r Cyng. Robert Francis-Davies yn aros fel Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth.

Y Cyng. Andrew Stevens sydd bellach yn gyfrifol am bortffolio'r Amgylchedd ac Isadeiledd. Mae pedwar portffolio newydd wedi'u creu.

Bydd y Cyng. Louise Gibbard yn gofalu am y Gwasanaethau Gofal, gan gynnwys y gwasanaethau cymdeithasol, gofal cymdeithasol i oedolion a'r gwasanaethau plant a theuluoedd.

Y Cyng. Alyson Pugh fydd Aelod y Cabinet dros Les, gyda chyfrifoldeb am leihau tlodi, cynhwysiad ariannol, hawliau lles a chydlyniad cymunedol.

Mae gan y Cyng. Elliott King bortffolio newydd sef Cydraddoldebau a Diwylliant, sy'n cynnwys cyfrifoldeb am lyfrgelloedd, archifau, gwasanaethau diwylliannol, canolfannau cymunedol a chyn-filwyr y lluoedd arfog.

Caiff portffolio'r gymuned ei oruchwylio gan Y Cyng. Cyril Anderson a'r Cyng. Hayley Gwilliam mewn swydd a rennir. Bydd cyfrifoldebau'r Cyng. Cyril Anderson yn cynnwys rheoli gwastraff, gwelliannau i'r strydlun, toiledau cyhoeddus a sbwriel a glanhau cymunedau.

Bydd cyfrifoldebau'r Cyng. Gwilliam yn cynnwys Cefnogaeth Gymunedol gan gynnwys Cydlynu Ardaloedd Lleol, ymwybyddiaeth o iechyd meddwl, gwasanaethau ieuenctid, diogelwch cymunedol a gwaith cymdogaethau.

Dyma'r pum Cynorthwy-ydd Cabinet newydd:

Addysg a Sgiliau - Y Cyng. Mike Durke

Diogelu Pobl - Y Cyng. Ceri Evans

 Yr Economi ac Isadeiledd - Y Cyng. Phil Downing

Newid yn yr Hinsawdd - Y Cyng. Kelly Roberts

Trawsnewid Sefydliadol - Y Cyng. Mandy Evans.

Meddai'r Cyng. Stewart, "Hoffwn groesawu holl Aelodau'r Cabinet a chynorthwywyr y Cabinet i'w rolau newydd. Mae'r amserau hyn yn rhai heriol a chyffrous, a'n dyhead yw gweithio gyda phobl Abertawe i barhau i gyflawni'r blaenoriaethau maent wedi'u gosod ar ein cyfer."

 

Close Dewis iaith