Gwirfoddoli yng Nghastell Ystumllwynarth
Gwnewch gais i fod yn wirfoddolwr yng Nghastell Ystumllwynarth
Sylwer: Cyfeillion Castell Ystumllwynarth fydd yn ymdrin yn uniongyrchol â'r ceisiadau i fod yn wirfoddolwr yng Nghastell Ystumllwynarth a gyflwynir gan ddefnyddio'r ffurflen isod. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am fod yn wirfoddolwr neu am eich cais, mae croeso i chi e-bostio'r Cyfeillion yn uniongyrchol yn Cyfeillion Castell Ystumllwynarth
Os oes gennych unrhyw gollfarnau cyfredol efallai y byddwn yn gofyn i chi eu datgan pan fyddwch yn dod i gael sgwrs â ni. Os oes gennych ddiddordeb mewn rôl sy'n ymwneud â gwirfoddoli gyda phlant a/neu oedolion diamddiffyn, byddwn yn gofyn am wybodaeth am gollfarnau troseddol cyfredol neu wedi'u disbyddu. Ni fydd cael cofnod troseddol o angenrheidrwydd yn eich atal rhag gwirfoddoli gyda ni.
Mae'r Castell yn weithredol 6 diwrnod yr wythnos gan gynnwys penwythnosau. Gall yr oriau amrywio gan ddibynnu ar y rôl.
Bydd un o'n hyfforddwyr yn cysylltu â chi i drafod sut y gallwch helpu yn y castell ac i drefnu eich hyfforddiant os ydych chi'n penderfynu bod yn un o Gyfeillion Castell Ystumllwynarth.
Unwaith y byddwch wedi cytuno i weithio ar dasg a ddyrannwyd i chi, byddwn yn gofyn i chi anrhydeddu'r ymrwymiad hwnnw lle bynnag y bo modd.