Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Nodiadau Arweiniol ar gyflwyno cais i gadw sefydliad lletya anifeiliaid

Cyngor i berchnogion a darpar-berchnogion sefydliadau lletya anifeiliaid

Cyffredinol

Mae Deddf Sefydliadau Lletya Anifeiliaid 1963 yn gwahardd cadw sefydliad lletya anifeiliaid (a ddiffinnir yn y Ddeddf fel cathod a chŵn) ac eithrio dan drwydded a roddir gan awdurdod lleol.

Diffiniadau

Dehonglir y term "sefydliad lletya" i gyfeirio, gyda rhai amodau, at unrhyw eiddo lle y cynhelir busnes darparu llety i anifeiliaid.

Trwyddedu sefydliadau lletya

Gall yr awdurdod lleol roi trwydded i gadw sefydliad lletya y gellir ei hadnewyddu'n flynyddol, i unrhyw berson nad yw wedi'i wahardd yn flaenorol o dan rai rhannau eraill o ddeddfwriaeth lles anifeiliaid.

Mae'n rhaid i'r awdurdod lleol fodloni'i hun y caiff rhai amodau statudol gofynnol eu cyflawni gan y sefydliad.

Yn ogystal, mae gan yr awdurdod lleol rym i wrthod trwydded am "resymau eraill" yn ôl ei ddisgresiwn.

Codir ffi lle rhoddir trwydded. Blwyddyn trwydded yw 1 Ionawr i 31 Rhagfyr. Bydd trwydded yn dod i ben dan amgylchiadau arferol ar ddiwedd y flwyddyn y mae'n berthnasol iddo, ni waeth pa ddyddiad y'i cyflwynwyd yn ystod y flwyddyn honno.

Dyletswydd yr awdurdod lleol

Wrth benderfynu a ddylid rhoi trwydded, mae'n rhaid i awdurdod lleol ystyried yr angen i sicrhau:

  1. y bydd anifeiliaid yn derbyn bwyd, diod a gwelltach gwelyau digonol. 
  2. y bydd y sefydliad yn darparu llety o faint digonol ar gyfer nifer yr anifeiliaid sydd yno ynghyd â chyfleusterau ymarfer.
  3. y bydd perchnogion yn sicrhau glendid pob llety ac yn rhagofalu na lledaenir clefydau heintus a chyffwrdd-ymledol. Dylid darparu cyfleusterau arwahanu.
  4. bod perchnogion yn darparu rhagofalon diogelwch yn erbyn tân ac argyfyngau eraill.
  5. bod cofrestr yn cael ei chadw sy'n nodi manylion yr anifeiliaid yn y sefydliad lletya, a'u perchnogion. Dylai'r gofrestr hon fod ar gael i'w harchwilio.

Mae'n rhaid i'r drwydded nodi'r fath amodau a fydd yn sicrhau bod y pethau a enwir uchod yn cael eu sicrhau.

Hawl ymgeisydd i apelio yn erbyn gwrthodiad

Gall y trwyddedai neu'r darpar drwyddedai sy'n tybio iddo gael cam am fod yr awdurdod lleol wedi gwrthod rhoi trwydded, neu oherwydd unrhyw amod y cynigir rhoi trwydded o'r fath yn amodol arno, apelio i'r Llys Ynadon; gydag apêl o'r fath, gall y llys roi cyfarwyddyd o ran rhoi trwydded, neu o ran yr amodau y mae rhoi trwydded yn amodol arnynt, fel y gwêl yn briodol.

Troseddau yn erbyn y Ddeddf

Mae'r Ddeddf yn darparu ar gyfer y troseddau canlynol:

  1. cadw sefydliad lletya ar gyfer anifeiliaid heb drwydded.
  2. mynd yn groes i unrhyw un o amodau'r drwydded neu beidio â chydymffurfio â hwy.
  3. rhwystro neu lesteirio unrhyw berson wrth iddo arfer ei bwerau mynediad neu archwilio.

Archwilio sefydliadau lletya anifeiliaid

O dan y Ddeddf, rhoddir pwerau i'r awdurdod lleol awdurdodi unrhyw un o'i swyddogion neu ei filfeddyg neu ymarferydd milfeddygol i archwilio unrhyw eiddo yn ei ardal y rhoddwyd trwydded iddo o dan y Ddeddf ac sydd mewn grym o hyd. Mae gan y fath berson, pan fydd yn dangos bod ganddo'r awdurdod, os oes angen hynny, yr hawl statudol i fynd i mewn i'r eiddo ar bob adeg resymol at y dibenion canlynol:

  1. archwilio'r eiddo
  2. archwilio'r anifeiliaid yn yr eiddo
  3. cadarnhau a gyflawnwyd trosedd neu a yw trosedd yn cael ei chyflawni yn yr eiddo.

Rhagor o wybodaeth

Gellir gweld copi o'r Ddeddf yn y swyddfa a enwir isod neu gellir ei brynu o Lyfrfa Ei Mawrhydi. Gellir cael manylion yr amodau a bennir gan y cyngor fel arfer ar gyfer rhoi trwyddedau, ynghyd â ffurflenni cais, gan:

Is-adran Drwyddedu
Gwasanaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd
Cyfarwyddiaeth Lleoedd
Canolfan Ddinesig
Heol Ystumllwynarth
Abertawe
SA1 3SN

Close Dewis iaith