Toglo gwelededd dewislen symudol

Parc Coed Bach

Mae'r parc yng ngogledd y sir ac yn cynnwys amrywiaeth o gyfleusterau gyda chyfarpar da a fydd yn diddanu'r teulu.

Mae digon i'w wneud ym Mharc Coed Bach ar gyfer pobl sy'n hoff o gerdded yn yr awyr agored neu i'r rheiny sydd am fod yn fwy actif.

Nodweddion rhagorol

Mae gan y parc goedwig hardd aeddfed lle gallwch gerdded yn hamddenol ar hyd y llwybrau cerdded.

Cyfleusterau

  • Cyfarpar llwybr ffitrwydd
  • Cwrtiau tenis
  • Ardal chwarae i blant
  • Cwrs cyfeiriannu
  • Llwybrau cerdded
  • Lawnt fowlio
  • Meinciau picnic
  • Toiledau
  • Coedwig

Hygyrchedd

Mae'r holl fynedfeydd i Barc Coed Bach yn hygyrch i bawb.

Cyfarwyddiadau

O Heol y Pentre (B4296) ar y ffordd i mewn i Bontarddulais, trowch i'r chwith i Heol Gwynfryn.  Mae'r fynedfa ar ddiwedd yr heol hon.

Côd Post - SA4 8LG

Close Dewis iaith