Toglo gwelededd dewislen symudol

Parc Coed Gwilym

Mae'r parc yng ngogledd-ddwyrain y sir ac yn cynnwys amrywiaeth o gyfleusterau o'r radd flaenaf. Mae ganddo amrywiaeth ardderchog o gyfleusterau yn ogystal â llwybrau cerdded hardd a gardd flodau.

Nodweddion rhagorol

Mae un o'r teithiau cerdded yn dilyn hen lwybr halio Camlas Tawe, lle arferai ceffylau dynnu badau llawn glo i lawr y cwm i Abertawe a oedd, ar un adeg, yn cael ei hadnabod fel 'Copropolis' oherwydd ei phwysigrwydd byd-eang fel canolfan mwyndoddi copr.

Mae canolfan treftadaeth a gwybodaeth ar gael yn y parc, ar hyd y gamlas. Yma y gwelwch linell amser Pentref Clydach o 1794 i'r presennol. Hefyd, mae DVDs, CDs a llyfrau o ddiddordeb lleol yno.

Mae Llwybr 43 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn mynd ar hyd llwybr halio'r gamlas sy'n cysylltu Abertawe â Chwm Tawe ar lwybr heb draffig.  Fel rhan o'r prosiect, gosododd Sustrans fainc portread ar hyd y llwybr yn y parc.  Yma y gallwch eistedd am hoe wrth i rywun dynnu llun ohonoch gydag arwyr lleol sydd wedi'u coffau mewn silwetau dur.

Cyfleusterau

  • Llwybr BMX yn y coetir
  • Lawnt fowlio
  • Ardal chwarae i blant
  • Cyfleusterau newid
  • Llogi canŵ ar y gamlas ar ddydd Sul yn ystod y gwyliau 11.00am - 3.00pm
  • Cyfarpar llwybr ffitrwydd
  • Meysydd pêl-droed
  • Ardal Gemau Amlddefnydd
  • Cyfleusterau parcio ar dir y parc
  • Cwrt tenis
  • Llwybrau cerdded
  • Coetir

Hygyrchedd

Mae'r holl fynedfeydd i Barc Coed Gwilym yn hygyrch i bawb.

Cyfarwyddiadau

Gadewch yr M4 wrth Gyffordd 45  gan ddilyn yr arwyddion i Bontardawe.  Wrth y cylchfan, cymerwch y troad cyntaf ar y chwith i Ynys Penllwch (B4291).  Wrth y cylchfan nesaf, trowch i'r dde i Heol Pontardawe. Mae mynedfa'r parc ar y dde.

Côd Post - SA6 5NS

Close Dewis iaith