Toglo gwelededd dewislen symudol

Parc Cwmbwrla

Mae'r parc mawr agored hwn i'r gogledd o ganol dinas Abertawe yn lle gwych i ymestyn eich coesau a mynd â'r ci am dro.

Gyda sawl cae agored, ardal chwarae i blant a chaeau gweithgareddau eraill, gall y parc hwn ddifyrru'r holl deulu.

Cyfleusterau

  • Ardal Gêmau Amlddefnydd
  • Ardal chwarae i blant
  • Llwybr antur

Hygyrchedd

Gât 1: Heol Ganol. Mae llethr 15 gradd gan y fynedfa hon ac mae'n hygyrch i bawb.
Gât 2: Heol Llwyncethin. Mae gât igam-ogam a llethr 15 gradd gan y fynedfa hon ac mae'n hygyrch i rai grwpiau anabledd.
Gât 3: Heol Maesglas. Mae'r fynedfa hon yn hygyrch i bawb.
Gât 4: Gerddi Alexander (maes parcio), yn hygyrch i bawb.
Gât 5: Gerddi Alexander, yn hygyrch i bawb.
Gât 6: Cefn Stryd Fern. Mae grisiau gan y fynedfa hon ac mae'n hygyrch i rai grwpiau anabledd.

Cyfarwyddiadau

Wrth fynd allan o'r ddinas ar hyd Heol Caerfyrddin, cymerwch y trydydd troad wrth Gylchfan Cwmbwrla i Heol Pentregethin. Cymerwch y pedwerydd troad ar y chwith i Heol Maesglas. Mae'r parc ar y chwith.

Close Dewis iaith