Toglo gwelededd dewislen symudol

Parc Dyfnant

Mae'r parc hwn yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau, o'r lawnt fowlio i ardal chwarae i blant. Mae'r parc yn darparu lle i aelodau'r gymuned gwrdd, a chwarae.

Treuliwch brynhawn gyda'r teulu a mwynhewch y cyfleusterau sydd gan y pentref hwn i'w cynnig. 

Cyfleusterau

  • Ardal chwarae i blant
  • Lawnt fowlio
  • Ardal Gêmau Amlddefnydd

Hygyrchedd

Gât 1: Pen Heol Goetre Fawr; llethr 10 gradd, yn hygyrch i bawb.
Gât 2: Heol Dyfnant. Mae gât igam-ogam a llethr 20 gradd gan y fynedfa hon ac mae'n hygyrch i rai grwpiau anabledd.
Gât 3: Heol Goetre Fach, yn hygyrch i bawb.
Gât 4: Gwaelod Heol Goetre Fawr. Mae gât igam-ogam a llethr 25 gradd gan y fynedfa hon ac mae'n hygyrch i rai grwpiau anabledd.

Cyfarwyddiadau 

Ewch i'r Gorllewin ar hyd Heol Gŵyr (A4118) trwy Gilá, trowch i'r dde wrth y gylchfan fach i Heol Goetre-Fawr. Mae'r fynedfa hanner ffordd i fyny'r heol hon, drwy lôn gul ar y dde.

Côd Post - SA2 7SG

Close Dewis iaith