Toglo gwelededd dewislen symudol

Parc Heol Las

Mae gan y parc hwn yn ardal Gellifedw, Abertawe, dir hamdden eang ac ardal chwarae i blant, ac mae'n cynnig cyfleusterau i bobl ifanc yr ardal chwarae, beth bynnag eu diddordebau.

Ceir dau faes pêl-droed mawr a chae criced gyda phafiliwn, ac mae'r rhain dafliad carreg o'r clwb rygbi lleol sef Clwb Rygbi Gellifedw.

Cyfleusterau

  • Ardal chwarae i blant
  • Meysydd pêl-droed
  • Meysydd criced

Hygyrchedd

Gât 1: Heol Dulais. Ceir llethr 10 gradd sy'n hygyrch i bawb.
Gât 2: Heol Newydd, yn hygyrch i bawb.
Gât 3: Gwernllwynchwyth. Mae grisiau'n arwain at lethr 15 gradd sy'n hygyrch i rai grwpiau anabledd.

Cyfarwyddiadau 

Gadewch yr M4 wrth Gyffordd 44 tuag at Gellifedw. Trowch i'r chwith wrth y goleuadau traffig i Heol Gellifedw a chymerwch y pedwerydd troad ar y chwith i Heol Dulais. Mae'r trydydd troad ar y chwith yn arwain i'r parc.

Côd Post - SA7 9LT

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Mai 2024