Toglo gwelededd dewislen symudol

Parcio coetsis

Mannau parcio a gollwng ar gyfer bysiau a choetsis.

Canol Dinas Abertawe

Mannau gollwng / casglu

Sylwer bod yr amser aros yn gyfyngedig i 10 munud:

Parcio

Gellir cael mynediad naill ai drwy ffonio 01792 480526 neu drwy wasgu'r botwm galw wrth y gatiau. Naill ai caiff y gatiau eu hagor neu darperir côd pin i chi er mwyn agor y gatiau.

Codir tâl o £10 ar gyfer pob cyfnod aros a gallwch ei dalu yn un o'r Peiriannau Talu ac Arddangos.

Ni chaniateir cysgu dros nos yn yr ardal parcio Coetsis/Lorïau oni bai fod y cerbyd wedi'i ddylunio'n arbennig i ganiatáu cysgu. Sylwer, nid oes unrhyw gyfleusterau e.e. dŵr ffres, dŵr gwastraff, cawodydd, toiledau neu gyflenwadau pŵer ar y safle. Os bydd unrhyw achos o faeddu amhriodol yn y maes parcio, bydd y cyngor yn ceisio adennill y costau glanhau. 

Defnyddir teledu cylch cyfyng ar draws y cyfleuster cyfan hwn.

 

Mwmbwls

Mannau gollwng / casglu

Nid oes man gollwng dynodedig swyddogol yn y Mwmbwls oherwydd cynllun y pentref hyfryd hwn.. Os ydych chi'n gollwng neu'n casglu yma, gwnewch hynny'n gyflym ac yn ddiogel (sylwer, gwneir hyn ar eich menter eich hun).

Parcio

 

Gŵyr

Parcio

Mae nifer o feysydd parcio preifat ym mhenrhyn Gŵyr hefyd yn cynnig parcio i goetsis. Am ragor o wybodaeth am hyn ewch i: www.visitswanseabay.com/conferences-groups/

 

Rhagor o wybodaeth

I gael syniadau am bethau i'w gweld a'u gwneud ym Mae Abertawe, y Mwmbwls a Phenrhyn Gŵyr, ewch i wefan swyddogol y cyrchfan: www.croesobaeabertawe.com

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 23 Mai 2023