Toglo gwelededd dewislen symudol

Parc Jersey

Mae gan Barc Jersey amrywiaeth o gyfleusterau. Mae'r parc hwn y tu allan i'r ddinas yn darparu gwasanaeth a werthfawrogir gan gymuned leol St Thomas a Dan-y-Graig.

Cyfleusterau

  • Ardal chwarae i blant
  • Lawnt fowlio

Hygyrchedd

Gât 1: Cilgant Illtud Sant/Cilgant Longford. Ceir llethr 10 gradd sy'n hygyrch i bob grŵp anabledd.
Gât 2: Stryd Margaret/Cilgant Longford. Ceir llethr 25 ac mae'n hygyrch i bob grŵp anabledd.
Gât 3: Stryd Margaret/Harbour View. Ceir llethr 25 gradd ac mae'n hygyrch i bob grŵp anabledd.
Gât 4: Harbour View/Cilgant Illtud Sant. Mae grisiau'n arwain at lethr 45 gradd ac mae'n hygyrch i rai grwpiau anabledd.

Cyfarwyddiadau 

Wrth adael y ddinas tua'r dwyrain ar hyd Ffordd Fabian, cymerwch y troad cyntaf ar y chwith i Heol Port Tennant. Cymerwch y seithfed troad ar y chwith i Heol Dan-y-graig. Cymerwch y troad cyntaf ar y chwith i Gilgant Sant Illtud. Mae'r parc ar y chwith.

Côd Post - SA1 8HR

Close Dewis iaith