Toglo gwelededd dewislen symudol

Parc Llewelyn

Parc cymunedol gwych yn nwyrain y ddinas sy'n cynnig ardal gemau amlddefnydd a lle i gicio pêl.

Gallwch fynd â'r ci am dro hamddenol neu ymlacio a mwynhau'r golygfeydd dros y cwm.

Hanes

Ym 1874, rhoddodd John Dillwyn Llewelyn, ffotograffydd enwog o Abertawe, dir ac arian er mwyn sefydlu parc ar gyfer y gymuned leol.

Cyfleusterau

  • Lawnt fowlio
  • Ardal chwarae i blant 
  • Canolfan cymuned
  • Cwrs cyfeiriannu
  • Cwrtiau tenis

Hygyrchedd

Gât 1: Teras Trewyddfa (prif fynedfa) sy'n hygyrch i bawb.
Gât 2: Teras Trewyddfa (mynedfa i gerddwyr) gyda gât 'igam-ogam' sy'n hygyrch i bawb. 
Gât 3: Cnap Llwyd, yn hygyrch i bawb.
Gât 4: Cnap Llwyd, yn hygyrch i bawb.
Gât 5: Gellir Aur, yn hygyrch i bawb.
Gât 6: Rhodfa Parc Llewelyn. Ceir gât fochyn sy'n hygyrch i rai grwpiau anabledd.

Cyfarwyddiadau 

Wrth adael canol y ddinas ar hyd Heol Castell-nedd, cymerwch y troad cyntaf neu, os ydych yn defnyddio'r ffordd osgoi newydd sy'n mynd heibio Stadiwm Swansea.com, cymerwch yr ail droad o gylchdro Glan-dwr i Heol Cwm Level ac ewch ymlaen i'r ail droad ar y dde, sef Heol Trewyddfa. 

Côd Post - SA6 8PB

Close Dewis iaith