Parc Sglefrio West Cross
Mae Parc Sglefrio West Cross, ar y blaendraeth rhwng Lido Blackpill a West Cross, yn lle diogel i sglefrwyr a'r rhai sy'n reidio beiciau BMX ddod ynghyd ac ymarfer eu sgiliau.
Mae'r parc yn cynnwys hanner piben gydag esgynyddion. Mae golygfeydd gwych hefyd o'r parc ar draws Bae Abertawe, o'r goleudy yn y Mwmbwls i Abertawe a thu hwnt.
Cyfleusterau
- Ramp BMX a sglefyrddio
- Llwybrau cerdded
Cyfarwyddiadau
Gyrrwch allan o Abertawe tuag at y Mwmbwls. Lleolir y parc sglefrio ar ôl Lido Blackpill, ychydig cyn cylchfan fach West Cross, ar yr ochr chwith.
Côd Post - SA3 5TW