Toglo gwelededd dewislen symudol

Parc yr Hafod

Man gwyrdd agored eang gyda chyfleusterau ardderchog ar gyfer plant iau a phlant hŷn. Hefyd, ceir digon o le i fynd â'r ci am dro ac ymestyn eich coesau.

Cyfleusterau

  • Ardal Gêmau Amlddefnydd
  • Ardal chwarae i blant
  • Lawnt fowlio

Hygyrchedd

Gât 1: Stryd Odo, yn hygyrch i bawb.
Gât 2: Heol y Cwm. Mae llethr 35 gradd gan y fynedfa hon ond mae'n hygyrch i rai grwpiau anabledd.
Gât 3: Heol Parc yr Hafod, yn hygyrch i bawb.
Gât 4: Heol Parc yr Hafod, yn hygyrch i bawb.
Gât 5: Cornel y lôn gefn; mae grisiau ger y fynedfa hon sy'n hygyrch i rai grwpiau anabledd.
Gât 6: Canol y lôn gefn, yn hygyrch i bawb.

Cyfarwyddiadau 

O Heol Castell-nedd, trowch i'r chwith wrth y cylchfan bach i Heol Pentremawr, tuag at Ysgol Pentrehafod. Cymerwch y troad cyntaf ar y chwith a'r cyntaf ar y dde i Stryd Vivian. Dilynwch yr heol i Stryd Odo. Mae'r troad cyntaf ar y dde'n arwain i'r parc.

Close Dewis iaith