Toglo gwelededd dewislen symudol

Twyni Penmaen a Nicholaston

Mae nifer o olion archeolegol pwysig ar Dwyni Penmaen ac mae'r safle rhwng Bae'r Tri Chlogwyn a Bae Oxwich yn golygu ei fod yn daith gerdded ddeniadol.

Mae Twyni Nicholaston, y tu ôl i ben gogleddol traeth Oxwich, yn gartref i blanhigion diddorol y twyni megis pig yr aran rudd-goch, tegeirian bera a nifer o rywogaethau'r cen.

Prynodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Dwyni Penmaen a Nicholaston ym 1967. Mae'r mannau tra diddorol hyn yn parhau o dan reolaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol er mwyn cadw gwerth eu bywyd gwyllt a'n treftadaeth ninnau.

Uchafbwyntiau

Mae hon yn ardal amrywiol iawn sy'n cynnwys twyni tywod, clogwyni a choetiroedd. Mae'r golygfeydd (ar ddiwrnod clir) yn ysblennydd ar draws ehangder Traeth Oxwich ac i'r cyfeiriad arall i gyfeiriad y Bae'r Tri Chlogwyn hardd.

Dynodiadau

  • Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)

Cyfleusterau

  • Mae caffi, siop fferm a safleoedd gwersylla yn Nicholaston

Gwybodaeth am fynediad

Cyfeirnod Grid SS532880
Map Explorer yr Arolwg Ordnans 164 Gŵyr

Mae mynediad i dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol am ddim er y croesewir cyfraniadau at waith rheoli parhaus ar y tir. Mae blychau cyfraniadau ym meysydd parcio'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Mhenmaen.

Llwybrau troed

Mae llwybr troed drwy Dwyni Nicholaston, ac er nad oes hawliau tramwy swyddogol o gwmpas Twyni Penmaen, mae sawl llwybr a ganiateir.

Ceir

Nid oes lle i barcio ar y safle, ond mae dau faes parcio'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gerllaw ar naill ben y ffordd fach oddi ar yr A4118 ym Mhenmaen.

Bws

Mae bysus rheolaidd (Gower Explorer) o Abertawe i Benmaen a Nicholaston.

Close Dewis iaith