Toglo gwelededd dewislen symudol

Plant wrth eu boddau gydag ardal chwarae newydd Townhill

Mae un o ganolfannau cymunedol mwyaf prysur a bywiog Abertawe - Canolfan y Ffenics yn Townhill - yn dathlu'r ffaith bod ganddynt ardal chwarae newydd wych i blant lleol, diolch i'r cyngor lleol.

Roedd yr ardal chwarae sy'n cynnwys llithrennau, siglenni, rowndabowtiau ac offer chwarae hygyrch i blant anabl, wedi agor ei gatiau i blant lleol ychydig cyn y Nadolig.

Nawr mae'r gymuned wedi dod ynghyd i ddathlu ei hagoriad swyddogol gan arweinydd y cyngor, Rob Stewart, gyda chefnogaeth plant o ysgolion lleol a oedd yn falch o'i dywys o gwmpas yr ardal chwarae newydd.

Meddai'r Cyng. Stewart, "Gallwn weld o frwdfrydedd ac egni'r plant lleol gymaint y maent yn dwlu ar yr ychwanegiad newydd hwn i Ganolfan y Ffenics - canolfan gymunedol boblogaidd iawn i bobl Townhill sy'n cynnwys llyfrgell y cyngor, cae pob tywydd a llifoleuadau.

"Mae gan yr ardal chwarae lawer o nodweddion gwych gan gynnwys paneli chwarae synhwyraidd, carwsél i gadeiriau olwyn, grisiau hygyrch a rhwyd ddringo. Mae'n golygu y gall pawb fwynhau'r cyfleusterau."

Mae agoriad swyddogol yr ardal chwarae yn Townhill yn golygu bod dros 50 o gymdogaethau o gwmpas y ddinas wedi elwa o'r prosiect adnewyddu ardaloedd chwarae gwerth £7m sydd fel arfer yn cynnwys cyfleusterau i bobl ifanc anabl fel rowndabowtiau sy'n gyfwastad â'r llawr, llithrennau llydan, siglenni basged a byrddau cyfathrebu.

I gael gwybod mwy am fuddsoddiad mwyaf erioed y cyngor mewn ardaloedd chwarae, ewch i: Cenhedlaeth newydd o ardaloedd chwarae i'n plant

 

Close Dewis iaith