Toglo gwelededd dewislen symudol

Amcangyfrifon poblogaeth diweddaraf

Amcangyfrifon canol blwyddyn swyddogol o boblogaeth Abertawe (canol 2024).

Cyflwyniad

Ar 30 Gorffennaf 2025, cyhoeddwyd amcangyfrifon poblogaeth canol 2024 ar gyfer ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).  Mae'r amcangyfrifon yn adlewyrchu canolbwynt y flwyddyn benodol (30 Mehefin) ac fe'u cyhoeddir yn flynyddol gan y SYG fel mesur mwy cyfoes o boblogaeth a newid rhwng Cyfrifiadau dengmlwyddol.  Dyma'r bedwaredd set o amcangyfrifon blynyddol canol i'w cyhoeddi yn seiliedig ar ganlyniadau Cyfrifiad 2021. 

Cyfrifir amcangyfrifon canol blwyddyn gan heneiddio ar amcangyfrifon y boblogaeth o'r Cyfrifiad, gan gymhwyso data ar gofrestriadau genedigaethau a marwolaethau, ac amcangyfrif llifoedd mudo mewnol (symudiadau i/o fannau eraill o fewn y DU) a mudo rhyngwladol (i/o'r tu allan i'r DU).  Mae'r amcangyfrifon hyn yn ymwneud â'r boblogaeth breswyl arferol.  Caiff preswylwyr arferol sydd i ffwrdd o'u cartref dros dro eu cynnwys, ond caiff ymwelwyr eu heithrio.  Caiff myfyrwyr eu cyfrif yn eu cyfeiriad yn ystod y tymor.  Mae'r amcangyfrifon hyn yn cynnwys mudwyr rhyngwladol tymor hir (pobl sy'n newid eu gwlad breswyl arferol am o leiaf flwyddyn) ond nid yw'n cynnwys pobl sy'n cyrraedd neu'n gadael y DU am lai na blwyddyn. 

Mae'r nodyn hwn yn rhoi trosolwg byr o'r ffigurau cyhoeddedig sy'n canolbwyntio ar y prif ganlyniadau ar gyfer Abertawe a Chymru; poblogaeth yn ôl oedran a rhyw; a thueddiadau tymor byr dros y cyfnod 12 mis i fis Mehefin 2024, gan gynnwys yr wybodaeth a oedd ar gael am yr elfennau newid poblogaeth.  Fel rhan o'r cyhoeddiad hwn, diwygiwyd amcangyfrifon poblogaeth a chydrannau newid ar gyfer canol 2022 a chanol 2023 gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol i ystyried amcangyfrifon wedi'u diweddaru o fudo mewnol a rhyngwladol.  Yn Abertawe, mae cyfanswm yr amcangyfrif poblogaeth a gyhoeddwyd yn flaenorol ar gyfer 2023 wedi cynyddu tua 2,200 oherwydd y diwygiad hwn, ac mae'r amcangyfrif ar gyfer 2022 wedi cynyddu tua 800. Mae'r ystadegau a amlinellir yn y nodyn briffio hwn yn adlewyrchu'r ffigurau diwygiedig. 

Ystadegau cenedlaethol

Poblogaeth amcangyfrifedig Cymru a Lloegr yng nghanol 2024 yw 61.8 miliwn, cynnydd o oddeutu 706,900 (1.2%) ers canol 2023.  Cyhoeddir amcangyfrifon ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon gan asiantaethau ystadegau eraill y DU (NRS, NISRA) gydag amserlenni rhyddhau gwahanol.  Disgwylir i amcangyfrifon poblogaeth canol 2024 ar gyfer y DU fod ar gael yn ddiweddarach yn 2025.

Y boblogaeth yng Nghymru

Ar gyfer canol 2024, amcangyfrifir bod poblogaeth Cymru'n 3,187,000 - cynnydd o 19,300 neu 0.6% ar ffigur canol 2023.  Gyda newid naturiol negatif (tua 8,100 yn llai o enedigaethau na marwolaethau) yng Nghymru, mae'r cynnydd rhwng canol 2023 a chanol 2024 wedi'i ysgogi'n bennaf gan gynnydd mewn mudo rhyngwladol net (+22,700).  Roedd mudo net negyddol mewnol (o fewn y DU) hefyd wedi ychwanegu tua 4,800 at boblogaeth Cymru dros flwyddyn.

Yng Nghymru, cafwyd cynnydd yn y boblogaeth mewn 21 o'r 22 awdurdod lleol rhwng canol 2023 a chanol 2024, gyda'r cynnydd mwyaf yng Nghaerdydd (+4,200) a Chasnewydd (+1.7%).  Ynys Môn yw'r unig ardal sy'n nodi gostyngiad bach yn y boblogaeth.  Mae manylion pellach ynghylch y boblogaeth a'r newid diweddar (yn y flwyddyn i 2024) ym mhob un o'r 22 ardal awdurdod lleol i'w cael yn Atodiad 1 (Word doc, 23 KB).

Poblogaeth Abertawe

Amcangyfrif poblogaeth canol blwyddyn 2024 ar gyfer Dinas a Sir Abertawe yw 251,300 (wedi'i dalgrynnu), sy'n cynnwys 127,000 o fenywod a 124,300 o ddynion. Mae'r ffigwr hwn yn cynrychioli cynnydd o oddeutu 2,300 neu 0.9% ar amcangyfrif (diwygiedig) canol 2023.

Mae elfennau cyffredinol newid mewn poblogaeth - sef genedigaethau, marwolaethau (h.y. newid naturiol) a mudo o ganol 2023 i ganol 2024 - wedi'u nodi yn Nhabl 1 isod.  Mae dadansoddiad o'r data ategol a ryddhawyd gyda'r amcangyfrifon yn awgrymu bod y cynnydd cyffredinol a gafwyd ym mhoblogaeth Abertawe dros y 12 mis i fis Mehefin 2024 o ganlyniad i fudo rhyngwladol net (+4,900 o bobl yn fras), wedi'i wrthbwyso'n rhannol gan ostyngiadau drwy fudo mewnol (yn y DU) (-1,900 net) a newid naturiol negyddol (tua 700 yn fwy o farwolaethau na genedigaethau yn ystod y flwyddyn).

Tabl 1 Elfennau newid mewn poblogaeth (Word doc, 20 KB)

Poblogaeth fesul oedran

Yng nghanol 2024, mae cyfran poblogaeth oedran gweithio Abertawe (h.y. pob person rhwng 16 a 64 oed), sef 63.0%, yn uwch na Chymru (61.1%) a Chymru a Lloegr (62.8%).  Fodd bynnag, mae gan Abertawe gyfran is o blant (0-15 oed), sef 16.7%, na Chymru (17.1%) a Chymru a Lloegr (18.3%).

Ffigur 1 Poblogaeth Abertawe fesul grŵp cam bywyd, canol 2024 (Word doc, 31 KB)

Darperir dadansoddiad manylach o boblogaeth Abertawe fesul oedran a rhyw (fel pyramid poblogaeth) yn Ffigur 2.

Ffigur 2 Poblogaeth Abertawe, canol 2024, fesul oedran a rhyw (Word doc, 34 KB)

Mae'r pyramid yn dangos cynnydd sydyn yn y grwpiau 19-21 oed, sy'n adlewyrchu presenoldeb myfyrwyr preswyl yn nwy brifysgol Abertawe.  Yna mae'r boblogaeth rhwng 22 a 24 oed yn cwympo'n sydyn, cyn dychwelyd i batrwm mwy sefydlog yn ystod y rhan fwyaf o flynyddoedd oedran gweithio, cyn i'r niferoedd ostwng yn raddol mewn cyfnodau bywyd diweddarach.

Ceir dadansoddiad o boblogaeth canol 2024 fesul oedran mewn carfanau pum mlynedd yn Atodiad 2 (Word doc, 22 KB).

Gan ddefnyddio'r amcangyfrifon hyn, gellir cymharu cyfansoddiad poblogaeth Abertawe fesul grwpiau oedran dethol (fel yng nghanol 2024) â chyfartaleddau Cymru a Chymru a Lloegr (C a Ll):

  • Mae 11,400 o blant 0 i 4 oed yn Abertawe, 4.5% o gyfanswm y boblogaeth - sydd ychydig yn is na'r gyfran gyfatebol ar gyfer Cymru (4.7%) a'r C a Ll (5.2%).
  • Mae gan Abertawe hefyd ganran is o blant 5 i 15 oed sef 12.2% (30,600 o blant), na Chymru (12.5%) a'r C a Ll (13.1%).
  • Mae 33,600 (13.4%) o boblogaeth Abertawe'n bobl ifanc 16 i 24 oed, cyfradd sy'n uwch na Chymru (10.6%) a'r C a Ll (10.8%), yn rhannol oherwydd myfyrwyr.
  • Mae 25.9% o'r boblogaeth (65,000 o bobl) rhwng 25 a 44 oed, sydd rhwng canrannau ar gyfer Cymru (24.9%) a'r C a Ll (27.0%).
  • Mae 59,700 o bobl yn Abertawe rhwng 45 a 64 oed (23.8%), cyfran is na Chymru (25.6%) a'r C a Ll (25.0%).
  • Mae 20.3% o boblogaeth Abertawe yn 65 oed ac yn hŷn (51,000), hanner ffordd rhwng ffigurau canrannol Cymru (21.7%) a'r C a Ll (18.9%).
  • Mae 6,900 o bobl yn Abertawe yn 85 ac yn hŷn, sef 2.8% o gyfanswm Abertawe, ychydig yn uwch na'r gyfran yng Nghymru (2.7%) a'r C a Ll (2.5%).
  • Oedran canolrifol y boblogaeth yn Abertawe oedd 40.2 mlwydd oed yng nghanol 2024, sy'n 0.1 o flynyddoedd yn is na chanol 2023 ond 0.5 flynyddoedd yn is na chanol 2014.  Mae ffigur diweddaraf Abertawe islaw'r cyfartaledd ar gyfer Cymru (42.8) a'r trydydd oedran canolrifol isaf yng Nghymru (yn uwch na Chaerdydd a Chasnewydd yn unig), ond maent yn agos iawn i rai Cymru a Lloegr (40.3).

Casgliad

I grynhoi, mae'r amcangyfrifon diweddaraf ar gyfer canol 2024 yn dangos y trydydd cynnydd blynyddol yn olynol ym mhoblogaeth Abertawe, ac ychydig yn uwch na'r cynnydd canrannol cyffredinol ar gyfer Cymru.  O ganol 2023 i ganol 2024, mudo rhyngwladol net oedd yn gyfrifol am dwf y boblogaeth yn Abertawe, wedi'i wrthbwyso'n rhannol gan ostyngiadau o ran mudo mewnol net (yn y DU), a newid naturiol negyddol parhaus (mwy o farwolaethau na genedigaethau) yn ystod y flwyddyn.

Sylwer: Ceir rhagor o wybodaeth genedlaethol am yr amcangyfrifon poblogaeth diweddaraf ar wefan SYG - gweler 'Dolenni' isod.

Mae ffeil ddata (Excel doc, 46 KB) ar gael sy'n cynnwys poblogaeth yn ôl blynyddoedd sengl a blynyddoedd wedi'u grwpio, er mwyn galluogi cyfrifiadau a dadansoddiadau pellach.

Os hoffech dderbyn unrhyw wybodaeth ychwanegol am yr amcangyfrifon canol blwyddyn, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill ynghylch newid mewn poblogaeth a newid demograffeg yn Abertawe, cysylltwch â ni.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Medi 2025