Amcangyfrifon poblogaeth diweddaraf
Amcangyfrifon canol blwyddyn swyddogol o boblogaeth Abertawe (canol 2024).
Cyflwyniad
Ar 30 Gorffennaf 2025, cyhoeddwyd amcangyfrifon poblogaeth canol 2024 ar gyfer ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Mae'r amcangyfrifon yn adlewyrchu canolbwynt y flwyddyn benodol (30 Mehefin) ac fe'u cyhoeddir yn flynyddol gan y SYG fel mesur mwy cyfoes o boblogaeth a newid rhwng Cyfrifiadau dengmlwyddol. Dyma'r bedwaredd set o amcangyfrifon blynyddol canol i'w cyhoeddi yn seiliedig ar ganlyniadau Cyfrifiad 2021.
Cyfrifir amcangyfrifon canol blwyddyn gan heneiddio ar amcangyfrifon y boblogaeth o'r Cyfrifiad, gan gymhwyso data ar gofrestriadau genedigaethau a marwolaethau, ac amcangyfrif llifoedd mudo mewnol (symudiadau i/o fannau eraill o fewn y DU) a mudo rhyngwladol (i/o'r tu allan i'r DU). Mae'r amcangyfrifon hyn yn ymwneud â'r boblogaeth breswyl arferol. Caiff preswylwyr arferol sydd i ffwrdd o'u cartref dros dro eu cynnwys, ond caiff ymwelwyr eu heithrio. Caiff myfyrwyr eu cyfrif yn eu cyfeiriad yn ystod y tymor. Mae'r amcangyfrifon hyn yn cynnwys mudwyr rhyngwladol tymor hir (pobl sy'n newid eu gwlad breswyl arferol am o leiaf flwyddyn) ond nid yw'n cynnwys pobl sy'n cyrraedd neu'n gadael y DU am lai na blwyddyn.
Mae'r nodyn hwn yn rhoi trosolwg byr o'r ffigurau cyhoeddedig sy'n canolbwyntio ar y prif ganlyniadau ar gyfer Abertawe a Chymru; poblogaeth yn ôl oedran a rhyw; a thueddiadau tymor byr dros y cyfnod 12 mis i fis Mehefin 2024, gan gynnwys yr wybodaeth a oedd ar gael am yr elfennau newid poblogaeth. Fel rhan o'r cyhoeddiad hwn, diwygiwyd amcangyfrifon poblogaeth a chydrannau newid ar gyfer canol 2022 a chanol 2023 gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol i ystyried amcangyfrifon wedi'u diweddaru o fudo mewnol a rhyngwladol. Yn Abertawe, mae cyfanswm yr amcangyfrif poblogaeth a gyhoeddwyd yn flaenorol ar gyfer 2023 wedi cynyddu tua 2,200 oherwydd y diwygiad hwn, ac mae'r amcangyfrif ar gyfer 2022 wedi cynyddu tua 800. Mae'r ystadegau a amlinellir yn y nodyn briffio hwn yn adlewyrchu'r ffigurau diwygiedig.
Ystadegau cenedlaethol
Poblogaeth amcangyfrifedig Cymru a Lloegr yng nghanol 2024 yw 61.8 miliwn, cynnydd o oddeutu 706,900 (1.2%) ers canol 2023. Cyhoeddir amcangyfrifon ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon gan asiantaethau ystadegau eraill y DU (NRS, NISRA) gydag amserlenni rhyddhau gwahanol. Disgwylir i amcangyfrifon poblogaeth canol 2024 ar gyfer y DU fod ar gael yn ddiweddarach yn 2025.
Y boblogaeth yng Nghymru
Ar gyfer canol 2024, amcangyfrifir bod poblogaeth Cymru'n 3,187,000 - cynnydd o 19,300 neu 0.6% ar ffigur canol 2023. Gyda newid naturiol negatif (tua 8,100 yn llai o enedigaethau na marwolaethau) yng Nghymru, mae'r cynnydd rhwng canol 2023 a chanol 2024 wedi'i ysgogi'n bennaf gan gynnydd mewn mudo rhyngwladol net (+22,700). Roedd mudo net negyddol mewnol (o fewn y DU) hefyd wedi ychwanegu tua 4,800 at boblogaeth Cymru dros flwyddyn.
Yng Nghymru, cafwyd cynnydd yn y boblogaeth mewn 21 o'r 22 awdurdod lleol rhwng canol 2023 a chanol 2024, gyda'r cynnydd mwyaf yng Nghaerdydd (+4,200) a Chasnewydd (+1.7%). Ynys Môn yw'r unig ardal sy'n nodi gostyngiad bach yn y boblogaeth. Mae manylion pellach ynghylch y boblogaeth a'r newid diweddar (yn y flwyddyn i 2024) ym mhob un o'r 22 ardal awdurdod lleol i'w cael yn Atodiad 1 (Word doc, 23 KB).
Poblogaeth Abertawe
Amcangyfrif poblogaeth canol blwyddyn 2024 ar gyfer Dinas a Sir Abertawe yw 251,300 (wedi'i dalgrynnu), sy'n cynnwys 127,000 o fenywod a 124,300 o ddynion. Mae'r ffigwr hwn yn cynrychioli cynnydd o oddeutu 2,300 neu 0.9% ar amcangyfrif (diwygiedig) canol 2023.
Mae elfennau cyffredinol newid mewn poblogaeth - sef genedigaethau, marwolaethau (h.y. newid naturiol) a mudo o ganol 2023 i ganol 2024 - wedi'u nodi yn Nhabl 1 isod. Mae dadansoddiad o'r data ategol a ryddhawyd gyda'r amcangyfrifon yn awgrymu bod y cynnydd cyffredinol a gafwyd ym mhoblogaeth Abertawe dros y 12 mis i fis Mehefin 2024 o ganlyniad i fudo rhyngwladol net (+4,900 o bobl yn fras), wedi'i wrthbwyso'n rhannol gan ostyngiadau drwy fudo mewnol (yn y DU) (-1,900 net) a newid naturiol negyddol (tua 700 yn fwy o farwolaethau na genedigaethau yn ystod y flwyddyn).
Tabl 1 Elfennau newid mewn poblogaeth (Word doc, 20 KB)
Poblogaeth fesul oedran
Yng nghanol 2024, mae cyfran poblogaeth oedran gweithio Abertawe (h.y. pob person rhwng 16 a 64 oed), sef 63.0%, yn uwch na Chymru (61.1%) a Chymru a Lloegr (62.8%). Fodd bynnag, mae gan Abertawe gyfran is o blant (0-15 oed), sef 16.7%, na Chymru (17.1%) a Chymru a Lloegr (18.3%).
Ffigur 1 Poblogaeth Abertawe fesul grŵp cam bywyd, canol 2024 (Word doc, 31 KB)
Darperir dadansoddiad manylach o boblogaeth Abertawe fesul oedran a rhyw (fel pyramid poblogaeth) yn Ffigur 2.
Ffigur 2 Poblogaeth Abertawe, canol 2024, fesul oedran a rhyw (Word doc, 34 KB)
Mae'r pyramid yn dangos cynnydd sydyn yn y grwpiau 19-21 oed, sy'n adlewyrchu presenoldeb myfyrwyr preswyl yn nwy brifysgol Abertawe. Yna mae'r boblogaeth rhwng 22 a 24 oed yn cwympo'n sydyn, cyn dychwelyd i batrwm mwy sefydlog yn ystod y rhan fwyaf o flynyddoedd oedran gweithio, cyn i'r niferoedd ostwng yn raddol mewn cyfnodau bywyd diweddarach.
Ceir dadansoddiad o boblogaeth canol 2024 fesul oedran mewn carfanau pum mlynedd yn Atodiad 2 (Word doc, 22 KB).
Gan ddefnyddio'r amcangyfrifon hyn, gellir cymharu cyfansoddiad poblogaeth Abertawe fesul grwpiau oedran dethol (fel yng nghanol 2024) â chyfartaleddau Cymru a Chymru a Lloegr (C a Ll):
- Mae 11,400 o blant 0 i 4 oed yn Abertawe, 4.5% o gyfanswm y boblogaeth - sydd ychydig yn is na'r gyfran gyfatebol ar gyfer Cymru (4.7%) a'r C a Ll (5.2%).
- Mae gan Abertawe hefyd ganran is o blant 5 i 15 oed sef 12.2% (30,600 o blant), na Chymru (12.5%) a'r C a Ll (13.1%).
- Mae 33,600 (13.4%) o boblogaeth Abertawe'n bobl ifanc 16 i 24 oed, cyfradd sy'n uwch na Chymru (10.6%) a'r C a Ll (10.8%), yn rhannol oherwydd myfyrwyr.
- Mae 25.9% o'r boblogaeth (65,000 o bobl) rhwng 25 a 44 oed, sydd rhwng canrannau ar gyfer Cymru (24.9%) a'r C a Ll (27.0%).
- Mae 59,700 o bobl yn Abertawe rhwng 45 a 64 oed (23.8%), cyfran is na Chymru (25.6%) a'r C a Ll (25.0%).
- Mae 20.3% o boblogaeth Abertawe yn 65 oed ac yn hŷn (51,000), hanner ffordd rhwng ffigurau canrannol Cymru (21.7%) a'r C a Ll (18.9%).
- Mae 6,900 o bobl yn Abertawe yn 85 ac yn hŷn, sef 2.8% o gyfanswm Abertawe, ychydig yn uwch na'r gyfran yng Nghymru (2.7%) a'r C a Ll (2.5%).
Oedran canolrifol y boblogaeth yn Abertawe oedd 40.2 mlwydd oed yng nghanol 2024, sy'n 0.1 o flynyddoedd yn is na chanol 2023. Mae ffigur Abertawe islaw'r cyfartaledd ar gyfer Cymru (42.8) a'r trydydd oedran canolrifol isaf yng Nghymru (yn uwch na Chaerdydd a Chasnewydd yn unig), ond maent yn agos iawn i rai Cymru a Lloegr (40.3).
Casgliad
I grynhoi, mae'r amcangyfrifon diweddaraf ar gyfer canol 2024 yn dangos y trydydd cynnydd blynyddol yn olynol ym mhoblogaeth Abertawe, ac ychydig yn uwch na'r cynnydd canrannol cyffredinol ar gyfer Cymru. O ganol 2023 i ganol 2024, mudo rhyngwladol net oedd yn gyfrifol am dwf y boblogaeth yn Abertawe, wedi'i wrthbwyso'n rhannol gan ostyngiadau o ran mudo mewnol net (yn y DU), a newid naturiol negyddol parhaus (mwy o farwolaethau na genedigaethau) yn ystod y flwyddyn.
Sylwer: Ceir rhagor o wybodaeth genedlaethol am yr amcangyfrifon poblogaeth diweddaraf ar wefan SYG - gweler 'Dolenni' isod.
Mae ffeil ddata (Excel doc, 46 KB) ar gael sy'n cynnwys poblogaeth yn ôl blynyddoedd sengl a blynyddoedd wedi'u grwpio, er mwyn galluogi cyfrifiadau a dadansoddiadau pellach.
Os hoffech dderbyn unrhyw wybodaeth ychwanegol am yr amcangyfrifon canol blwyddyn, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill ynghylch newid mewn poblogaeth a newid demograffeg yn Abertawe, cysylltwch â ni.