
Polisi datblygiad cynaliadwy
Mae polisi datblygiad cynaliadwy corfforaethol y cyngor yn pennu canllawiau sy'n helpu gwasanaethau i gyflwyno canlyniadau cynaliadwy ar gyfer ein cymunedau.
Mae Dinas a Sir Abertawe'n diffinio datblygiad cynaliadwy fel "datblygiad sy'n diwallu anghenion y presennol heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain."
Cyflwynir y polisi hwn gan y cyngor cyfan trwy bolisïau a strategaethau corfforaethol a darpariaeth rheng-flaen.