Toglo gwelededd dewislen symudol

Priodasau a phartneriaethau sifil

Mae gan Abertawe'r lleoliad perffaith ar gyfer eich priodas neu bartneriaeth sifil. O olygfeydd godidog dros Fae Abertawe i harddwch eithriadol Penrhyn Gŵyr, rydych yn siŵr o ddod o hyd i'ch lleoliad delfrydol.

Lle bynnag y byddwch yn dewis cynnal eich seremoni gallwn helpu i wneud eich diwrnod yn wirioneddol arbennig.

Os oes gennych ymholiad am eich priodas neu'ch partneriaeth sifil, peidiwch â ffonio'r Swyddfa Gofrestru. E-bostiwch eich ymholiad i cofrestryddion@abertawe.gov.uk.


Cynhelir seremonïau yn y Ganolfan Ddinesig. Os trefnwyd i'ch seremoni gael ei chynnal yn y Swyddfa Gofrestru, bydd angen i chi ddod â dau dyst yn unig. Os cynhelir eich seremoni yn Ystafelloedd Seremoni Bae Abertawe, gallwch ddod ag uchafswm o 55 o westeion (gan gynnwys plant).

Mae'n ofynnol i leoliadau cymeradwy fel gwestai a lleoliadau lletygarwch gau ac eithrio mewn rhai amgylchiadau - trafodwch hyn â'ch lleoliad.

Dylai cyplau sydd i fod i briodi mewn man addoli barhau i gysylltu â'r eglwys/capel i weld a all eu seremoni fynd rhagddi.

Os oes gennych ymholiad am eich priodas neu bartneriaeth sifil, anfonwch e-bost i cofrestryddion@abertawe.gov.uk. Ni allwn dderbyn ymholiadau am seremonïau dros y ffôn.

Mae'n rhaid i chi gynnwys dyddiad a lleoliad eich seremoni yn y llinell destun neu ni fyddwn yn gallu ymdrin â'ch ymholiad. Byddwn naill ai'n eich e-bostio neu'n eich ffonio ac yn ymdrin â'r e-byst yn y drefn y cânt eu derbyn. Ar hyn o bryd rydym yn rhoi blaenoriaeth i gyplau y mae eu seremonïau i fod i gael eu cynnal yn fuan.

Diolch am eich dealltwriaeth a'ch amynedd.

Hysbysiad am briodas

Os ydych am briodi neu ffurfio partneriaeth sifil yng Nghymru neu Lloegr mae'n rhaid i'r ddau ohonoch roi hysbysiad yn bersonol.

Priodasau a Phartneriaethau Sifil yn y Ganolfan Ddinesig

Mae'r Ganolfan Ddinesig ar y promenâd glan môr gyda golygfeydd godidog dros Fae anhygoel Abertawe.

Priodasau crefyddol

Gellir cynnal priodas grefyddol mewn eglwys, capel neu adeilad crefyddol cofrestredig arall.

Seremonïau dramor

Mae'r rheolau ynghylch priodasau mewn gwledydd eraill yn gymhleth ac maent yn amrywio o'r naill wlad i'r llall.

Seremonïau mewn lleoliadau cymeradwy

Gellir cynnal priodasau a phartneriaethau sifil mewn amrywiaeth o fangreoedd. Mae'r rhain yn cynnwys gwestai, amgueddfeydd, theatrau a hyd yn oed stadia pêl-droed.

Trwyddedu lleoliad ar gyfer seremonïau

Er mwyn cynnal priodas sifil neu bartneriaeth sifil mewn lleoliad yng Nghymru neu Lloegr, mae'n rhaid i'r fangre gael ei chymeradwyo gan yr awdurdod lleol. Mae angen caniatâd ar wahân os ydych am gynnal partneriaeth sifil mewn mangre grefyddol.

Cwestiynau cyffredin am y seremoni

Atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin a ofynnir am seremonïau priodas a phartneriaeth sifil.

Talu am seremoni

Os ydych wedi trefnu seremoni briodas neu bartneriaeth sifil yn Abertawe gallwch dalu'r blaendal, y balans neu'r swm llawn gan ddefnyddio'r ffurflen hon.

Trosi partneriaeth Sifil yn Briodas

Os ydych wedi bod drwy seremoni partneriaeth sifil gyfreithiol yng Nghymru neu Loegr, gallwch drosi hon bellach yn briodas.

Ffioedd a thaliadau ar gyfer gwasanaethau cofrestru

Gellir talu ffioedd seremonïau ag arian neu gardiau debyd neu gredyd yn y Swyddfa Gofrestru neu â cherdyn credyd neu ddebyd dros y ffôn.
Close Dewis iaith