Trosi partneriaeth Sifil yn Briodas

Os ydych wedi bod drwy seremoni partneriaeth sifil gyfreithiol yng Nghymru neu Loegr, gallwch drosi hon bellach yn briodas.

Gellir cwblhau'r weithdrefn weinyddol safonol i drosi'ch partneriaeth sifil yn briodas mewn unrhyw Swyddfa Gofrestru yng Nghymru a Lloegr. Nid oes rhaid iddi fod yn yr un ardal lle ffurfiwyd eich partneriaeth sifil yn wreiddiol.

Bydd yn ofynnol i chi wneud eich apwyntiad i'w throsi a bydd angen i chi ddod â phrawf adnabod gyda phrawf o'ch cyfeiriad a'ch tystysgrif partneriaeth sifil. Byddwn yn rhoi cyngor i chi o ran yr union ddogfennau y bydd eu hangen pan wnewch yr apwyntiad.

Mae'n rhaid bod y ddau bartner yno pan gaiff ei throsi, ond nid oes angen tystion.

Codir ffi statudol £45 i'w throsi yn ogystal â £4.00 am y dystysgrif priodas.

Os ydych am gael seremoni anstatudol i ddathlu trosi'ch partneriaeth sifil neu os ydych am lofnodi'r datganiad trosi mewn lleoliad cymeradwy neu mewn adeilad crefyddol a gymeradwyir ar gyfer priodasau o'r un rhyw, bydd ffïoedd a phrosesau ychwanegol yn berthnasol.

Ebost cofrestryddion@abertawe.gov.uk am fwy o wybodaeth neu i wneud apwyntiad.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Mai 2025