Problemau sŵn
Gall sŵn uchel beri gofid ac anesmwythyd i bobl yn eu cartrefi. Os ydych yn cael problemau gyda sŵn eithafol, mae pethau y gallwch eu gwneud i helpu i ddatrys y broblem.
Sut gallwch fynd i'r afael â phroblemau sŵn?
Y peth cyntaf y dylech ei wneud yw siarad â'r person neu'r busnes sy'n achosi'r broblem gyda sŵn. Efallai nad ydynt yn sylweddoli bod problem yn bodoli ac yn aml byddant yn barod i helpu.
Os nad yw hyn wedi datrys y broblem, gallwch roi gwybod i ni am y broblem.
Rhoi gwybod am broblem llygredd Rhoi gwybod am broblem llygredd
Beth gall y cyngor ei wneud am broblemau sŵn?
Unwaith i chi gofnodi cwyn byddwch yn cael eich rhoi ar ein cofrestr y tu allan i oriau. Yna dylech gysylltu â ni bob tro y mae sŵn a byddwn yn ymchwilio lle bynnag y bo modd. Os bydd y swyddog ymchwilio'n clywed y sŵn bydd yn penderfynu a yw'n niwsans statudol ai peidio. Efallai y bydd angen i'r sŵn gael ei glywed sawl tro.
Os penderfynir bod y sŵn yn niwsans, caiff rhybudd gostegu ei gyflwyno i'r person sy'n gyfrifol am gadw'r sŵn. Os na fydd yn cydymffurfio â'r rhybudd hwn, caiff ei erlyn. Efallai y bydd gofyn i chi fod yn dyst yn y llys.
Mae synau na allwn ymdrin â hwy yn cynnwys plant neu bobl ifanc yn achosi poendod, gweiddi, cau drysau'n swnllyd a sŵn traffig, awyrennau milwrol neu awyrennau sifil.
Sut gallwch atal sŵn gormodol rhag dod o'ch cartref?
- peidiwch â rhoi seinyddion ar y waliau
- gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu clywed cloch y drws uwchben y gerddoriaeth neu'r teledu
- cadwch lefel y sŵn yn isel yn hwyr yn y nos
- rhowch wybod i'ch cymdogion os ydych yn cael parti
- peidiwch â gadael eich ci heb gwmni am gyfnodau hir
- os yw eich ci'n cyfarth, ceisiwch weld pam a'i dawelu
- peidiwch â defnyddio'ch peiriant golchi neu'ch peiriant sychu dillad yn hwyr yn y nos
- os ydych yn dychwelyd ar ôl noson mas, gwnewch ymdrech i fod yn dawel - caewch ddrysau car yn ysgafn a siaradwch yn dawel.
- yn fwy na dim, byddwch yn rhesymol os bydd eich cymydog yn dod atoch gyda phroblem.
Os ydych yn gwneud gormod o sŵn ac yn cael eich erlyn, bydd gan y cyngor y pŵer i fynd â'r holl gyfarpar a all gyfrannu at y niwsans. Mae hyn yn cynnwys setiau teledu a DVD, chwaraewyr Blue Ray, stereos, setiau radio, consolau gemau a chyfrifiaduron. Os cewch eich erlyn a'ch cael yn euog o greu niswans, bydd y cyngor yn gwenud cais i gadw'r eitemau hyn. Bydd gennych gofnod troseddol hefyd.
Cofiwch fod synnau'n rhy uchel os
- na allwch siarad â rhywun sydd dwy fetr i ffwrdd heb waeddu. Cymerwch hoe ac ewch i ardal dawelach
- gallwch glywed clychau bach yn eich clustiau ar ôl bod yn rhywle lle cafwyd lefelau uchel o sŵn.