Toglo gwelededd dewislen symudol

Sut i ddelio â phroblemau trydanol yn eich cartref

Gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer delio â phroblemau trydanol yn eich cartref.

Pan fyddwch yn symud i eiddo, sicrhewch eich bod yn gwybod ble mae switsh y prif gyflenwad a sut i ddiffodd y trydan mewn argyfwng. Fel arfer mae switsh y prif gyflenwad mewn cwpwrdd ynghyd â'r mesurydd a'r blwch ffiwsiau neu'r torrwr cylched.

Datrys problemau trydanol
ProblemYr hyn y gallwch chi ei wneudPwy sy'n gallu helpu
Os oes tânCaewch ddrws yr ystafell lle mae'r tân. Bydd hyn yn helpu i reoli'r tân, ac yn atal mwg gwenwynig rhag lledaenu.
Rhybuddiwch y bobl eraill yn eich tŷ a gadewch yn gyflym.
Peidiwch ag oedi i gasglu unrhyw beth - cofiwch, gall eich llwybr dianc gael ei rwystro'n gyflym iawn.
Os oes rhywbeth yn rhwystro'ch llwybr dianc, caewch ddrws eich ystafell a'i selio gyda blanced neu garped i atal y tân neu'r mwg rhag lledaenu.
Galwch am gymorth drwy'r ffenestr.
Peidiwch â mynd yn ôl i mewn i'ch cartref am unrhyw reswm.
Ffoniwch 999 a gofyn am y frigâd dân
Os ydych wedi troi golau/teclyn ymlaen ac nid yw'n gweithioGwiriwch y switshys torri cyflenwad yn yr uned defnyddiwr.
Os yw un o'r switshys wedi'i ddiffodd, tynnwch blwg y teclyn neu diffoddwch y golau ac ailosod y switsh torri cyflenwad.
Ar ôl cynnau'r golau, rhowch blygiau'r teclynnau yn ôl i mewn, un ar y tro i weld a oes un ohonynt yn ddiffygiol ac yn torri'r cyflenwad.

Os yw'r switsh yn torri'r
cyflenwad eto: Gwneud cais am atgyweiriad

Os ydych yn pryderu
neu'n ansicr ynghylch
ffitiadau trydanol neu
socedi, trowch y trydan i
ffwrdd: Gwneud cais am atgyweiriad

Beth i'w wneud os ydych yn arogli nwyAgorwch ddrysau a ffenestri i gael gwared ar y nwy.
Sicrhewch nad yw'r nwy'n llifo a heb ei danio, neu a yw'r golau peilot wedi cael ei ddiffodd.
Diffoddwch y cyflenwad nwy ar y mesurydd.
Peidiwch â thanio unrhyw fatsis neu danwyr.
Peidiwch â defnyddio clychau drws neu switshys trydanol eraill.
Ffoniwch y Gwasanaeth Argyfwng Nwy Cenedlaethol ar 0800 111 999
Atal Mygdarthau Carbon MonocsidGofalwch fod ystafelloedd yn cael eu hawyru'n dda.
Sicrhewch nad yw awyrellau'n cael eu rhwystro na'u cau.
Glanhewch y simneiau o leiaf unwaith y flwyddyn.
Prynwch eitemau sydd wedi'u cymeradwyo'n swyddogol, gyda'r 'Stamp Safon Prydeinig'.
Defnyddiwch osodwyr nwy sydd ar y Gofrestr Diogelwch Nwy bob tro.
Os ydych am osod eich eitemau nwy eich hun, mae'n rhaid i chi gael caniatâd gan eich swyddfa dai ardal.
Dylech wirio a gwasanaethu eitemau nwy yn rheolaidd.
Mae'n rhaid i ni, yn ôl y gyfraith, gynnal gwiriad diogelwch nwy rheolaidd ar yr holl eitemau nwy
unwaith y flwyddyn - mae hwn am ddim.
Mae'n rhaid i ni gael mynediad i'ch cartref i gynnal y gwiriad hwn.
Byddwn yn gwasanaethu ac yn atgyweirio'r holl eitemau rydym wedi'u gosod.
Cofiwch mai er eich diogelwch chi yw hyn.

 

Close Dewis iaith