Toglo gwelededd dewislen symudol

Apwyntiadau profi cerbydau Hacni a hurio preifat

Rhestrir dyddiadau profion ar gyfer cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat yma.

Sylwer: Gwneir profion yr holl gerbydau hacni a cherbydau hurio preifat drwy apwyntiad YN UNIG.

Adnewyddiadau a phrofion 6 mis

Byddwch yn derbyn llythyr adnewyddu fel arfer gyda dyddiad ac amser profi'r cerbyd. Ceisiwch fodloni'r gofynion hyn i'r graddau y bo hynny'n bosib. Os nad ydych wedi derbyn eich llythyr erbyn diwrnod cyntaf y mis y mae eich trwydded yn dod i ben, ffoniwch yr adran Trwyddedu Tacsis ar 01792 635600 i gadarnhau dyddiad ac amser eich prawf.

Cofiwch fod yn rhaid i chi brofi'ch cerbyd erbyn diwedd y mis y mae eich plât yn dod i ben neu efallai na roddir eich trwydded i chi ac ni fyddwch yn gallu defnyddio'ch cerbyd ar ôl yr adeg hon.

Bydd angen i chi gyflwyno derbynneb ddilys ar gyfer adnewyddu trwydded i'r person sy'n archwilio'r cerbyd ar adeg y prawf cerbyd.

Sylwer - os nad ydych yn dangos y dderbynneb, ni fydd eich cerbyd yn cael ei archwilio.

Cyfeiriad Depo Cludiant Cyngor Abertawe yw St Peter's Court, Viking Way, Abertawe SA1 7DA. Ewch yn syth i'r dderbynfa pan fyddwch yn cyrraedd.

Os bydd angen i chi ganslo'ch prawf oherwydd nad ydych wedi adnewyddu'ch trwydded, neu i aildrefnu prawf, bydd angen i chi e-bostio'r tîm trwyddedu tacsis yn TrwyddeduTacsis@abertawe.gov.uk. Gallwch hefyd ffonio 01792 511911 a nodi'ch enw a'ch rhif ffôn cyswllt.

Rhoddir rhif cofrestru newydd eich cerbyd pan fydd wedi pasio'r prawf. Anfonir eich trwydded bapur drwy'r post yn dilyn eich archwiliad.