Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Gwers 3 - Pysgod ar fy Mhlât

Mae'r wers hon yn canolbwyntio ar Ddatblygu Creadigol gan helpu plant i ddatblygu rhai rysetiau syml ynghyd â fideos o plant yn coginio'r rysetiau. Dylai'r plant gael eu hannog i werthuso'r pryd ac i awgrymu ffyrdd y credant hwy y gellir ei wella.

Bydd y wers hon yn galluogi plant i:

Adnabod y cynhwysion, yr offer a'r sgiliau sydd eu hangen i wneud pryd pysgod syml; 

Defnyddio a Datblygu sgiliau bwyd syml i wneud pryd pysgod;

Gwerthuso eu pryd a gwneud awgrymiadau sut gellir ei wella.

Cynllun gwers

Esboniwch i'r plant y byddan nhw'n gwneud pryd bwyd pysgod gwych - Reis corgimwch trofannol! Os ydych yn dymuno, gall y plant fwyta hwn i ginio ar y diwrnod yr ydych yn ei goginio. Dangoswch y fideo Reis corgimwch trofannol i'r plant. Gofynnwch i'r plant chwilio am y cynhwysion yn y pryd bwyd - gallwch nodi'r rhain ar y bwrdd wrth i'r plant eu henwi.

Gwers 3 - Pysgod ar fy Mhlât (PDF) [191KB]

Rysáit: Reis Corgimwch Trofannol (PDF)

Dyma’n rysáit ar gyfer Reis Corgimwch Trofannol

Rysáit: Cacennau Cranc Crensiog (PDF)

Dyma'n rysáit ar gyfer Cacennau Cranc Crensiog

Rysáit: Salad Draenogyn Môr Ffrwythaidd (PDF)

Dyma'n rysáit ar gyfer Salad Draenogyn Môr Ffrwythaidd

Rysáit: Parseli Lleden a Phupur (PDF)

Dyma'n rysáit ar gyfer Parseli Lleden a Phupur

Slip caniatâd blasu a gwneud (Word)

Slip caniatâd blasu a gwneud.

Taflenni gwaith Gwers 3 (PDF)

Taflen waith cynhwysion rysáit, Fy nhaflen waith rysáit pysgod, Taflen waith Rwy’n barod i goginio

Rwy’n barod i goginio (ZIP)

Gweithgaredd Bwrdd Gwyn Rhyngweithiol