Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwers 4 - Ffeithiau am Bysgod

Wrth edrych ar ffeithiau am bysgod, mae plant yn cael cyfle i archwilio sut mae ymarfer corff a bwyta'r math cywir a'r meintiau cywir o fwyd yn helpu bodau dynol i gadw'n iach. Mae'r thema hon yn cysylltu â Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Diwylliannol yn y cwricwlwm presennol.

Bydd y wers hon yn galluogi plant i:

Adnabod y Plât Bwyta'n Dda a gwybod ei bod yn dweud wrthym sut i fwyta'n iach

Deall sut gall pysgod fod yn rhan o ddiet iach, amrywiol;

Gwybod sut y gall pysgod fod yn rhan o wahanol brydau bwyd.

Cynllun gwers

Esboniwch i'r plant y byddan nhw'n dysgu am fwyta'n iach. Dangoswch y PowerPoint Bwyta'n Iach i drafod y canlynol gyda'r plant:

  • y Plât bwyta'n iach - ei grwpiau bwyd a bwydydd yn y gwahanol grwpiau 
  • sut mae pysgod yn cyfrannu at ddeiet iach, amrywiol (mae'n perthyn i un o'r pedwar prif grwpiau bwyd) 
  • ailadroddwch y gwahanol fathau o bysgod - pysgod gwyn, pysgod cregyn a physgod olewog 
  • archwiliwch sut y gall pysgod fod yn rhan o wahanol brydau bwyd.

Gwers 4 - Ffeithiau am Bysgod (PDF) [296KB]

Lesson 4 worksheets (PDF)

Including: Fish dish game cards, My mackerel pate worksheet, Fish dish activity sheets, Pairs - fish images, Pairs - dishes images, Make a meal images.

Bwyta’n Iach a physgod (ZIP)

Gweithgaredd Bwrdd Gwyn Rhyngweithiol

PowerPoint Bwyta’n Iach (Powerpoint)

PowerPoint Bwyta’n Iach.

Gemau bwrdd prydau bwyd pysgod (PDF)

Gemau bwrdd prydau bwyd pysgod.
Close Dewis iaith