Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Gwers 5 - Pysgod i'm Teulu

Mae Pysgod i fy Nheulu yn edrych ar sut y gall plant gynnal arolwg ar aelodau o'u teulu i ganfod beth yw eu harferion bwyta pysgod. Mae'r thema hon yn helpu i gyflwyno Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol, Llythrennedd a Sgiliau Cyfathrebu yn amgylchedd yr ystafell ddosbarth.

Bydd y wers hon yn galluogi plant i:

Adnabod rhai o'r buddion sylfaenol o fwyta pysgod;

Gwybod y dylai pawb fwyta mwy o bysgod (dau ddogn yr wythnos - a dylai un ohonynt fod yn olewog);

Fod yn greadigol wrth lunio hysbyseb i berswadio eu teulu i fwyta mwy o bysgod, gan ddefnyddio'r wybodaeth maent wedi'i ddysgu am bysgod a dyfeisiau sy'n perswadio, e.e. iaith gadarnhaol.

Cynllun gwers

Defnyddiwch y PowerPoint Oeddech chi'n gwybod? i siarad gyda'r plant am bysgod a'u manteision i iechyd.

Gallwch ddefnyddio'r BGRh Mae pysgod yn wych i atgyfnerthu gwybodaeth y plant am bysgod.

Pysgod amdani Gwers 5 (PDF) [182KB]

Prydau bwyd pysgod bendigedig poster (PDF)

Prydau bwyd pysgod bendigedig poster.

Taflenni gwaith Gwers 5 (PDF)

Taflenni gwaith: geiriau rhyfeddol, hysbyseb Fy mhysgodyn, brand Fy mhysgodyn, Bwyta mwy o bysgod

Poster Bwyta’n dda, bwyta pysgod (PDF)

Poster Bwyta’n dda, bwyta pysgod.
Close Dewis iaith