Toglo gwelededd dewislen symudol

Ymunwch â ni ar gyfer Distawrwydd yn y Sgwâr

Bydd distawrwydd yn Sgwâr y Castell ein dinas am ddwy funud ddydd Iau nesaf wrth i'r genedl gofio'r aberth a wnaed gan y lluoedd arfog mewn gwrthdaro ledled y byd.

Field poppy

Bydd distawrwydd yn Sgwâr y Castell ein dinas am ddwy funud ddydd Iau nesaf wrth i'r genedl gofio'r aberth a wnaed gan y lluoedd arfog mewn gwrthdaro ledled y byd.

Bydd prif Senotaff Abertawe ar lan y môr, staff Cyngor Abertawe a llawer o fusnesau, cartrefi a chofebau eraill hefyd yn dawel ar gyfer y dathliadau blynyddol ar 11 Tachwedd.

Mae Cyngor Abertawe'n trefnu'r digwyddiad Distawrwydd yn y Sgwâr yng nghanol y ddinas ac yn cefnogi cymunedau a chyn-filwyr mewn digwyddiadau a drefnir gan ganghennau lleol o'r Lleng Brydeinig Frenhinol.

Yn bresennol yn Senotaff Abertawe ar 11 Tachwedd fydd Arglwydd Faer Abertawe, y Cynghorydd Mike Day, ynghyd â Hyrwyddwr Lluoedd Arfog y cyngor, y Cynghorydd Wendy Lewis, a phwysigion eraill sy'n cynrychioli pobl Abertawe.

Meddai'r Cyng. Day, "Mae dwy funud o fyfyrdod tawel yn symbol o'n diolchgarwch i'r rheini a fu'n gwasanaethu ar ein rhan i amddiffyn ein rhyddid, a'r rheini sy'n dal i wneud hynny.

"Mae'r ddwy funud o distawrwydd a gynhelir ar draws Abertawe a gweddill y DU ar yr un pryd hefyd yn atgof ingol o dreftadaeth gyffredin o aberth ac ymdrech."

Bydd adeiladau dinesig o amgylch Abertawe hefyd yn dawel ar 11 Tachwedd am 11am ar gyfer y ddwy funud o ddistawrwydd cenedlaethol Bydd Neuadd y Ddinas yn cael ei goleuo'n goch y noson honno ac ar noson 13 Tachwedd,  Sul y Cofio.

Mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol, fel bob amser, wedi trefnu Gwasanaeth y Cofio blynyddol yn Eglwys y Santes Fair ar 13 Tachwedd , gyda'r gwesteion gwadd yn cynnwys y Cynghorwyr Day a Lewis. Bydd hyn yn ychwanegol i ddigwyddiadau cymunedol niferus a gynhelir gan gyn-filwyr, eu teuluoedd a'u cefnogwyr mewn cymunedau ar draws Abertawe.

Hefyd yn cael ei gynnal ar 13 Tachwedd am 11am fydd Gwasanaeth y Cofio yn y Senotaff a fynychir gan Cyng Day wrth i'r ddinas ymuno â gweddill y DU yn y seremoni goffa flynyddol.

Meddai'r Cyng. Lewis, "Y llynedd, ar anterth y pandemig, gwnaeth Cyngor Abertawe ymrwymiad i gyn-filwyr i drysori a diogelu cofebion rhyfel o amgylch Abertawe ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Ers blynyddoedd lawer mae cyn-filwyr wedi sicrhau eu bod yn cael eu cynnal. I'r bobl hynny, hoffem ddweud 'Diolch am eich gwasanaeth, tro pobl Abertawe yw e' nawr'."

Mae pabïau ar werth mewn nifer o leoliadau'r cyngor o gwmpas y ddinas, gan gynnwys sawl llyfrgell, Neuadd y Ddinas a'r Ganolfan Ddinesig.

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 07 Tachwedd 2022