Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf
Rhaglen arloesi a ariennir gan Lywodraeth Cymru y bwriedir iddi wella canlyniadau ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd yw Teuluoedd yn Gyntaf. Mae'n rhoi pwyslais ar ymyrryd yn gynnar, atal a darparu cefnogaeth i deuluoedd cyfan, yn hytrach nag unigolion. Mae'r rhaglen yn hyrwyddo mwy o waith amlasiantaeth i sicrhau bod teuluoedd yn derbyn cymorth cydlynol pan fydd ei angen arnynt.


Prosiectau
CMET - Coll, Camfanteisio a Masnachu Cyd-destunnol
Fforwm gweithredol sy'n dod â sefydliadau proffesiynol o bob rhan o Abertawe ynghyd i drafod pryderon sy'n gysylltiedig â niwed y tu allan i'r teulu yw CMET. Nid yw hyn yn disodli diogelu pobl ifanc unigol, ond mae'n cydnabod y rôl bwysig y mae cymunedau ac asiantaethau partner yn ei chwarae mewn creu mannau diogel y gall plant a phobl ifanc Abertawe dreulio amser ynddynt drwy ddilyn ymagwedd gyd-destunol at ddiogelu.
CMET - Coll, Camfanteisio a Masnachu Cyd-destunol
Canolfannau Cymorth Cynnar
Mae'r Canolfannau Cymorth Cynnar yn cynnig model cefnogaeth amlasiantaeth ac integredig i blant, pobl ifanc a theuluoedd y mae angen cefnogaeth arnynt ond nad oes angen ymyrraeth statudol arnynt:
- Cefnogaeth i'r Teulu Cyfan: Defnyddio'r fframwaith Arwyddion Lles a dull Tîm am y Teulu.
- Gwaith Ieuenctid a Chymorth y Blynyddoedd Cynnar: Gan gynnwys gweithwyr iechyd a lles emosiynol, gweithwyr arweiniol a chlybiau ieuenctid mynediad agored.
- Llwybr atgyfeirio: Mae gweithwyr proffesiynol yn defnyddio'r ffurflen Pwynt Cyswllt Unigol i atgyfeirio teuluoedd am gefnogaeth, gan sicrhau ymateb cydlynol. Gall teuluoedd siarad ag unrhyw weithwyr proffesiynol sy'n gysylltiedig â nhw, er enghraifft rhywun o'r ysgol neu faes iechyd, fel bydwraig neu ymwelydd iechyd. Fel arall, gallant gysylltu â'r canolfannau cymorth cynnar yn uniongyrchol.
- Mynediad at Wasanaethau: Mae'r gefnogaeth yn cynnwys arweiniad, cyfeirio ac ymyriadau uniongyrchol sy'n seiliedig ar anghenion asesedig. Mae'r gwasanaethau wedi'u cydleoli i sicrhau hygyrchedd, ni waeth beth fo'u hoedran neu eu lleoliad.
Gwasanaethau Ymyrryd yn Gynnar
Faith in Families
Mae elusen Faith in Families yn trawsnwid bywydau ar draws Bae Abertawe drwy ganolfannau cwtsh cymunedol a banciau pob dim. Mae'n darparu cefnogaeth hanfodol i blant a theuluoedd y maen nhw'n wynebu heriau fel tlodi, argyfwng a thrawma. Mae'r ystod o wasanaethau sydd ar gynnig yn cynnwys grwpiau i rieni a phlant bach therapi un i un i blant, cefnogaeth i rieni a phlant bach, gwaith allgyrmorth a chymorth gartref.
EYST - Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru
Yn Abertawe, mae'r prosiect Cyswllt Teulu yn darparu cymorth i unrhyw deuluoedd BME a chanddynt anghenion penodol mewn perthynas ag iechyd, addysg, tai, gwasanaethau cymdeithasol, neu unrhyw fater arall. Gall teulu a atgyfeiriwyd i'r rhaglen hon dderbyn cymorth gan un o'r gweithwyr cymorth i deuluoedd, neu gellir ei gyfeirio at gymorth arbenigol gan asiantaethau lleol a'i helpu i gael y cymorth hwnnw.
Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST)
Home Start Cymru
Mae gwirfoddolwr hyrwyddwyr rhieni Home Start Cymru'n cefnogi lles emosiynol teuluoedd yn y gymuned leol i gael mynediad at adnoddau lleol ac ymgysylltu â nhw. Mae'n darparu dull anfeirniadol sy'n cefnogi anghenion y teulu ac yn rhoi cyfleoedd i gwrdd ag eraill sy'n deall profiadau teuluol yn ystod heriau bywyd.
LocalAid
Mae Local Aid yn elusen gofrestredig yn Abertawe sy'n ymrwymedig i ddarparu cyfleoedd chwarae a hamdden cynhwysol y tu allan i'r ysgol ar gyfer pobl ifanc ac anableddau. Caiff eu rhaglenni eu dylunio i feithrin annibyniaeth, magu hyder a chreu cysylltiadau cymdeithasol ystyrlon mewn amgylcheddau diogel a chefnogol.
Llyfrgell Cyfleoedd Chwarae a Hamdden
Mae'r Llyfrgell Cyfleoedd Chwarae a Hamdden yn brosiect unigryw yn Abertawe, De Cymru a'r llyfrgell chwarae a hamdden gyntaf ar gyfer plant ac oedolion ag anabledd yn y DU. Maent yn elusen gofrestredig sy'n darparu eganau a chyfarpar hamdden arbenigol trwy wasanaeth llyfrgell fenthyca.
Llyfrgell Cyfleoedd Chwarae a Hamdden
Canolfan Blant Stepping Stones (Action for Children)
Mae Canolfan Blant Stepping Stones yn darparu gwasanaethau chwarae a datblygiadol i blant cyn oed ysgol a chanddynt anabledd wedi'i ddiagnosio neu anghenion ychwanegol sy'n dod i'r amlwg.
Canolfan Blant Stepping Stones (Action for Children)
Canolfan Blant Abertawe
Mae'r ganolfan, sydd ym Mhen-lan ac sy'n cynnig lle i deuluoedd dderbyn cymorth, hefyd yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau i bobl o bob oedran.
Canolfan Blant Golygfa Fynyddig
Mae'r ganolfan hon yng nghymuned Mayhill yn cynnig cymorth i deuluoedd yn yr ardal ac yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau'n rheolaidd.