Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwasanaethau Ymyrryd yn Gynnar

Mae 5 Canolfan Cymorth Cynnar yn Abertawe sy'n dilyn model sy'n addas i'r ardal leol, sy'n cynnwys y Dwyrain, Penderi, Townhill, Dyffryn a'r Gorllewin.

Dwyrain - Llangyfelach Road, Brynhyfryd, Abertawe SA5 9EA
Penderi - Portmead Avenue, Blaenymaes, Abertawe SA5 5QH
Townhill - Powys Avenue, Townhill, Abertawe SA1 6PH
Dyffryn - Bethel Road, Llansamlet, Abertawe SA7 9QP
Gorllewin - Pontarddulais Road, Gorseinon, Abertawe SA4 4FE

 

Egwyddorion allweddol

Rydym am sicrhau bod plant a theuluoedd yn Abertawe yn cael mynediad at y gefnogaeth gywir, ar yr adeg gywir, gan y person cywir, ni waeth beth yw eu hoedran a'u lleoliad. Rydym wedi dylunio'r Canolfannau Cymorth Cynnar yn seiliedig ar alw a'r "hyn sy'n bwysig" i deuluoedd. Rydym wedi gweithio gyda'n gilydd i ddatblygu ein gwasanaethau fel y gall plant, pobl ifanc a theuluoedd yn Abertawe gael eu cefnogi i fyw bywydau hapus, iach a diogel, gyda help o'r gefnogaeth gywir, ar yr adeg gywir, os bydd ei hangen.

Mae'r Canolfannau Cymorth Cynnar yn dilyn ymagwedd gydlynol gan ddefnyddio'r fframwaith arwyddion lles i weithio gydag unigolion a theuluoedd, ac yn cefnogi lles gan ddefnyddio strwythur canolfannau sy'n seiliedig ar leoliad ac un pwynt cyswllt ar gyfer gweithwyr proffesiynol.

Mae model y Canolfannau Cymorth Cynnar yn adeiladu ar y ddarpariaeth cefnogaeth flaenorol i deuluoedd, yn ogystal â chynyddu'r ddarpariaeth honno, darpariaeth a adwaenid yn flaenorol fel TAT, y Tîm am y Teulu, ac Evolve. Wrth gydleoli a dod â'r gwasanaethau hyn at ei gilydd fel un strwythur, gallwn sicrhau bod cefnogaeth ar gael, ni waeth beth fo'u hoedran na'u lleoliad, a'i bod wedi'i hintegreiddio â phartneriaid ac yn defnyddio asedau cymunedol i ddarparu:

  • Gwaith plentyn neu flynyddoedd cynnar
  • Gwaith ieuenctid
  • Gwaith teulu cyfan.

Mae'r holl staff yn y Canolfannau Cymorth Cynnar yn gweithio trwy ddefnyddio ymagwedd y Tîm am y Teulu (TAT) fel y gall rhagor o staff gefnogi'r cynnig hwn ar draws addysg gynradd ac uwchradd. Bydd cefnogaeth ar gyfer datblygiad ysgolion a'r gymuned ar gael ar draws y Canolfannau Cymorth Cynnar, a fydd ar gael ledled Abertawe ni waeth beth fo'u hoedran na'u lleoliad.

Yn y pen draw, bydd y Canolfannau Cymorth Cynnar yn cynnwys cynrychiolaeth amlasiantaeth gan ddarparu adnodd sengl, integredig ar gyfer rhoi cymorth i deuluoedd.

Beth mae hyn yn ei olygu i'n partneriaid sydd am gefnogi teuluoedd i gael mynediad at gymorth?

Rydym wedi datblygu ffurflen gyfeirio unigol a elwir yn Gais gan yr Ymarferydd am Wybodaeth, Cyngor a Chymorth wrth y Ganolfan Cymorth Cynnar neu'r Pwynt Cyswllt Unigol. Dylid defnyddio'r ffurflen hon i gofnodi trafodaethau gweithwyr proffesiynol â phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd a nodi'n glir yr hyn sydd o bwys iddynt, yn ogystal â gwybodaeth am eu hamgylchiadau personol, unrhyw risgiau neu faterion a nodwyd yn ogystal â'r cryfderau a'r diogelwch sydd eisoes ar waith ac unrhyw rwystrau sy'n atal y teulu rhag cyflawni eu canlyniadau personol a nodwyd. 

Mae arweiniad ar sut i gwblhau Cais Ymarferydd am GCC wedi'i gynnwys ar y ffurflen ac mae lle i nodi p'un a yw eich cyfeiriad yn ymwneud â materion lles neu ddiogelu.

 

Lles

Y Canolfannau Cymorth Cynnar fydd y prif bwynt cyswllt ar gyfer partneriaid sy'n ceisio cyngor a chefnogaeth os oes ganddynt bryderon am les eu plant, eu pobl ifanc a'u teuluoedd. Bydd y Canolfannau Cymorth Cynnar yn gallu asesu'r holl ymholiadau o fewn y ganolfan a darparu'r arweiniad priodol, gwasanaeth cyfeirio neu gefnogaeth yn seiliedig ar yr angen. Bydd gan y canolfannau gysylltiadau partneriaeth amlasiantaeth i helpu i sicrhau bod y teulu'n cael mynediad at y gefnogaeth gywir ar yr adeg gywir.

Cysylltwch â'r Canolfannau Cymorth Cynnar Tîm Ymyrryd yn Gynnar

 

Diogelu

Yn ôl yr arfer, os oes gennych bryderon diogelu am blentyn neu deulu, cysylltwch â:

Un pwynt cyswllt (UPC)

Mae ein Yr Tîm Dyletswydd Brys Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd ar gael o hyd ar gyfer cefnogaeth y tu allan i oriau arferol na all aros tan y diwrnod gwaith nesaf.

Mewn sefyllfa argyfwng lle gall oedolyn neu blentyn fod mewn perygl enbyd o niwed, ffoniwch 999.

Tîm Ymyrryd yn Gynnar

Y prif bwynt cyswllt ar gyfer partneriaid sy'n ceisio cyngor a chefnogaeth os oes ganddynt bryderon am les eu plant, eu pobl ifanc a'u teuluoedd.

Un pwynt cyswllt (UPC)

Gall teuluoedd sy'n byw yn Abertawe gysylltu â'r UPC eu hunain i ofyn am help neu gyngor.

Yr Tîm Dyletswydd Brys Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae'r tîm waith cymdeithasol hwn yn trin sefyllfaoedd argyfwng y tu allan i oriau arferol i blentyn, oedloion a iechyd meddwl na allant gael eu gadael yn ddiogel tan y diwrnod gweithio nesaf, ac maent yn darparu gwybodaeth a chyngor i gadw'r sefyllfa'n ddiogel tan y diwrnod nesaf.

Lleferydd, iaith a chyfathrebu

Mae Dechrau'n Deg yn dîm o Therapyddion Iaith a Lleferydd Arbenigol ac ymarferwyr cysylltiol

Atgyfeiriad gan ymarferydd/ gweithiwr proffesiynol - Gwasanaeth Plant a Theuluoedd

Cais gan ymarferydd am wybodaeth, cyngor a chymorth gan y Canolfannau Cymorth Cynnar neu'r Pwynt Cyswllt Unigol yng Nghyngor Abertawe.
Close Dewis iaith