Toglo gwelededd dewislen symudol

Rheoli taliadau uniongyrchol

Ynghyd â'r dewis a'r hyblygrwydd y mae Taliadau Uniongyrchol yn eu cynnig, ceir cyfrifoldebau hefyd.

Mae adolygiad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd o'n Gwasanathau Taliadau Uniongyrchol a hoffem glywed am eich barn a'ch profiadau. Pe baech yn ystyried cwblhau'r arolwg, mynd i: 'Yr hyn sy'n bwysig' am Daliadau Uniongyrchol - ddweud eich dweud

Y brif egwyddor yw mai chi, sef y defnyddiwr gwasanaeth, sy'n rheoli'ch arian a'ch darpariaeth gefnogaeth fel bod gennych fwy o ddewis ac annibyniaeth.  Gan mai chi sy'n gwybod eich anghenion eich hunan orau, chi sy'n gallu penderfynu sut i wario'r arian rydych yn ei dderbyn ar gyfer cefnogaeth sy'n gweddu orau i'ch ffordd o fyw.

Gyda thaliadau uniongyrchol:

Chi sy'n dewis pwy sy'n darparu eich cefnogaeth, a

Chi sy'n rheoli pryd rydych yn derbyn eich cefnogaeth.

Mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud taliad uniongyrchol i chi, ar yr amod eich bod yn gymwys i dderbyn gwasanaethau, fel y gallwch drefnu a phrynu eich cefnogaeth eich hun.

Chi sy'n gyfrifol am weinyddu'r arian a chadw cofnodion i ddangos ei fod wedi cael ei wario yn y ffordd gywir. Fodd bynnag, gall ffrind neu berthynas eich helpu i wneud hyn.

Os ydych yn dewis cyflogi rhywun fel cynorthwy-ydd personol, bydd gennych holl gyfrifoldebau arferol cyflogwr. Fodd bynnag mae cymorth ar gael gyda hyn.

Beth yw'r dewisiadau i rywun nad yw'n gallu rheoli taliad uniongyrchol ei hunan?

Mae rhai pobl sy'n gymwys i gael Taliad Uniongyrchol ond sy'n methu â rheoli'r trefniadau ariannol a chontractau eu hunain. Dyma rai rhesymau dros hyn:

  • nid oes ganddynt y gallu meddyliol i wneud hynny (efallai oherwydd anabledd dysgu neu ddementia)
  • mae angen help ychwanegol arnynt gyda'r gwaith papur
  • nid ydynt yn gallu agor cyfrif banc
  • maent yn sâl iawn.

Mae'r opsiynau canlynol ar gael i alluogi pobl i ddefnyddio taliadau uniongyrchol a chadw rheolaeth dros y gefnogaeth maent yn ei derbyn:

Taliad anuniongyrchol

Taliad uniongyrchol yw hwn a delir i gyfrif banc perthynas neu ffrind y sawl sy'n defnyddio'r taliad. Ond rhaid i'r person sy'n derbyn y taliad fod yn gyflogwr cyfreithiol unrhyw gynorthwy-ydd personol. Rhaid i'r sawl sy'n derbyn y taliad weinyddu'r cyfrif er budd pennaf y sawl sy'n derbyn cefnogaeth, yn yr un ffordd ag y byddai defnyddiwr arferol taliad uniongyrchol yn gorfod ei wneud. Mae'r sawl sy'n derbyn y taliad yn gallu defnyddio'r holl wasanaethau cefnogi sydd ar gael i'r bobl sy'n derbyn taliad uniongyrchol rheolaidd.

Taliad uniongyrchol i berson addas

Mae hyn yn gweithio fel Taliad Anuniongyrchol, ond fe'i defnyddir pan na fydd gan y person sy'n derbyn y taliad y gallu meddyliol (fel y'i diffiniwyd o dan Ddeddf Gallu Meddyliol 2005).  Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y person addas yn aelod o'r teulu neu'n ffrind agos sydd eisoes yn gofalu am y defnyddiwr gwasanaeth. Bydd y person addas yn gyflogwr cyfreithiol unrhyw gynorthwy-ydd personol.

Cyfrif a reolir

Gall Compass Independent Living yn ddarparu Cyfrif a Reolir ar ran y person sy'n defnyddio'r Taliad Uniongyrchol. Golyga hyn eu bod yn cadw'r taliad ar ran y person hwnnw, yn talu'r holl allan-daliadau angenrheidiol y cytunwyd arnynt ac yn darparu adroddiadau banc cyson.

Er y gall unrhyw un ddechrau trwy ddefnyddio cyfrif a reolir, gall y Tîm Taliadau Uniongyrchol ddarparu cymorth, cefnogaeth ac anogaeth i'r rheini a hoffai allu rheoli eu taliadau uniongyrchol eu hunain mewn amser. Fodd bynnag, gall y bobl hynny nad ydynt yn gallu ymdopi heb gefnogaeth, barhau gyda chyfrif a reolir.

Cronfeydd ymddiriedolaeth byw'n annibynnol

Gellir sefydlu'r cronfeydd hyn ar ran rywun nad oes ganddo'r galluedd meddyliol. Gwneir y Taliad Uniongyrchol i grŵp o bobl (o leiaf tri) sy'n gweithredu ar ran y sawl sy'n defnyddio'r Taliad Uniongyrchol. Byddai gan yr ymddiriedolwyr hyn yr un cyfrifoldebau i weinyddu a chyfrifyddu'r taliad ag y byddai gan defnyddiwr arferol Taliad Uniongyrchol.

 

Os ydych yn ystyried un o'r opsiynau hyn, gall y Tîm Taliadau Uniongyrchol roi mwy o wybodaeth i chi a thrafod beth mae hynny'n ei olygu'n union gyda chi a'ch teulu.

Beth os yw fy anghenion yn newid?

Os bydd eich anghenion yn newid, efallai byddwch yn gallu newid eich taliad uniongyrchol. Os ydych yn teimlo nad yw taliadau uniongyrchol yn iawn i chi wedi'r cwbl, gallwch newid i dderbyn gwasanaethau gan y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Close Dewis iaith